Beth yw'r Senedd?
Senedd Cymru yw ble mae deddfau'n cael eu gwneud ar gyfer Cymru.
Hawdd ei Ddarllen
Hawdd ei Ddarllen - Beth yw'r Senedd?
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.
Hanes
Yn 1997, pleidleisiodd Cymru i symud rhai pwerau o Senedd y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn cael ei alw yn datganoli.
Mae llawer wedi newid ers etholiadau cyntaf y Cynulliad yn 1999. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael ei alw yn Senedd, neu Senedd Cymru.
Yn 2011, roedd refferendwm arall a phleidleisiodd pobl Cymru i roi’r pŵer i’r Senedd lunio ei chyfreithiau ei hun.
Yn syml
Mae Aelodau’r Senedd yn cyfarfod ym Mae Caerdydd i drafod a phleidleisio ar gyfreithiau, gosod rhai trethi ar gyfer Cymru, a chraffu ar waith Llywodraeth Cymru.
Mae nifer Aelodau’r Senedd yn newid o 60 i 96 yn yr etholiad ar 7 Mai. Mae tudalen ar y wefan yma sy’n egluro’r system bleidleisio.
Mae Aelodau’r Senedd (sydd hefyd yn cael eu galw yn AS) yn cael eu hethol i gynrychioli pobl yn 16 etholaeth Cymru.
Maen nhw’n cyfarfod ddwywaith yr wythnos yn y Siambr (y siambr drafod) i siarad mewn dadleuon, holi gweinidogion Llywodraeth Cymru a phleidleisio ar gyfreithiau.
Mae’r dadleuon yn cael eu cadeirio gan y Llywydd. Mae’r Llywydd yn Aelod o’r Senedd a’u rôl yw rheoli’r dadleuon a chynrychioli’r Senedd.
Mae’r Llywydd fel arfer yn aelod o blaid wleidyddol, ond maen nhw’n niwtral yn wleidyddol yn y Senedd. Caiff y Llywydd ei ddewis drwy bleidlais o Aelodau’r Senedd.
Y gwahaniaeth rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru
Mae’r Senedd yn cynnwys pawb sydd wedi’u hethol yn Aelodau’r Senedd.
Daw Aelodau’r Senedd o wahanol bleidiau gwleidyddol. Gall ymgeiswyr annibynnol hefyd fod yn Aelodau o’r Senedd.
Mae’r Senedd yn cynnwys Llywodraeth Cymru a’r gwrthbleidiau (y pleidiau gwleidyddol ac Aelodau annibynnol nad ydynt yn rhan o’r blaid neu’r pleidiau sydd mewn llywodraeth).
Llywodraeth Cymru yw’r blaid neu’r pleidiau gwleidyddol sy’n gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus Cymru ac sy’n cynnig cyllideb Cymru. I ffurfio Llywodraeth Cymru, mae angen i blaid neu bleidiau gwleidyddol gael mwy na hanner Aelodau’r Senedd i bleidleisio dros eu harweinydd i fod yn Brif Weinidog.
Fel arfer, mae angen i bleidiau gwleidyddol gydweithio i ffurfio Llywodraeth Cymru. Mae’r system bleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd yn golygu ei bod yn annhebygol i un blaid ennill mwy na hanner y seddi. Gall hyn fod yn glymblaid, lle mae dwy blaid neu fwy yn rhannu pŵer, neu’n gytundeb mwy anffurfiol lle mae pleidiau’n cytuno i bleidleisio i gefnogi’r llywodraeth ar rai materion yn gyfnewid am gefnogaeth ar rai pethau y maen nhw eu heisiau.
Mae Llywodraeth Cymru yn cael ei arwain gan y Prif Weinidog. Fel arfer, y Prif Weinidog yw arweinydd un o’r pleidiau gwleidyddol mwyaf yn y Senedd. Caiff ei ethol gan Aelodau’r Senedd, a’u penodi’n swyddogol gan y Brenin.
Gall y Prif Weinidog ddewis gweinidogion, sydd hefyd yn Aelodau’r Senedd, i fod yn gyfrifol am feysydd fel iechyd, trafnidiaeth ac addysg.
Aelodau’r Senedd
Swydd Aelod o’r Senedd yw cynrychioli pobl yn eu hetholaeth (ardal bleidleisio).
Yn y Senedd, gall Aelodau’r Senedd ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru, cymryd rhan mewn dadleuon, ac eistedd ar bwyllgorau lle maen nhw’n edrych ar wahanol bolisïau a gwaith Llywodraeth Cymru.
Gall Aelodau’r Senedd hefyd drafod materion lleol yn y Senedd, ac weithiau gallent gynnig cyfreithiau newydd eu hunain.
Gallwch ddarllen mwy am beth mae’r Senedd yn ei wneud ar y wefan yma.
Gallwch gysylltu â’ch Aelod o’r Senedd a gofyn iddynt ofyn cwestiwn ar eich rhan yn y Senedd.
Yn eu hetholaethau (ardaloedd pleidleisio), gall Aelodau’r Senedd eich cynrychioli drwy geisio helpu gydag unrhyw broblemau rydych yn eu hwynebu gyda phethau fel gwasanaethau meddyg teulu neu ysbyty, ysgolion, neu dai.
Maen nhw hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol ac yn ceisio annog Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau a fyddai’n helpu eu hetholaeth.