Pam pleidleisio?
Mae etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026 yn gyfle i chi ddweud eich dweud.
Hawdd ei Ddarllen - Pam pleidleisio?
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.
Pan fyddwch chi’n pleidleisio ar 7 Mai 2026, byddwch chi’n datgan eich barn ar y pethau sy’n bwysig i chi.
Mae gwleidyddion yn y Senedd yn gyfrifol am gymaint o bethau sy’n effeithio ar ein bywydau. Pleidleisio mewn etholiad yw’r ffordd rydym yn dewis pwy yw’r gwleidyddion hynny.
Diwrnod yr etholiad
Ar ddiwrnod yr etholiad, bydd y grym yn eich dwylo chi, ac mae gan bob pleidleisiwr un bleidlais gyfartal.
Bydd nifer y seddi y mae pleidiau gwleidyddol yn eu hennill yn etholiad y Senedd yn cyfateb yn agos i nifer y pleidleisiau y maen nhw’n yn eu cael.
Mae rhai pobl yn newydd i bleidleisio, rhai erioed wedi pleidleisio o’r blaen, a bydd rhai pobl wedi bod yn pleidleisio ers blynyddoedd.
Rhesymau dros bleidleisio
Ond beth yw’r rhesymau mae pobl yn eu rhoi dros bleidleisio mewn etholiadau?
I ddylanwadu ar bolisïau addysg, iechyd, tai a mwy
I gefnogi’r blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol rydych chi eisiau iddynt ennill
I sicrhau bod gwleidyddion yn gwneud eu gwaith yn dda – gallwch bleidleisio yn eu herbyn os nad ydych yn credu eu bod yn gwneud hynny
Mae etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026 yn gyfle i chi ddweud eich dweud.