Beth mae'r Senedd yn ei wneud?
Mae gan Senedd Cymru a senedd y DU bwerau gwahanol.
Hawdd ei Ddarllen - Beth mae'r Senedd yn ei wneud?
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.
Y Senedd (Senedd Cymru) yw’r lle ble mae penderfyniadau pwysig am fywyd yng Nghymru yn cael eu trafod a’u gwneud. Er mwyn deall y Senedd, mae’n ddefnyddiol gwybod y gwahaniaeth rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru, pa bwerau sydd gan y Senedd, a sut mae’n ffitio i mewn i system ehangach y DU.
Y Senedd vs Llywodraeth Cymru
Mae pobl yn aml yn cymysgu rhwng yr rhain, ond nid ydynt yr un peth.
Y Senedd sy’n trafod ac yn pleidleisio ar gyfreithiau, yn gwirio ac yn herio beth mae’r llywodraeth yn ei wneud, ac yn pleidleisio ar y gyllideb (sut mae Cymru’n gwario ei harian).
Mae’r Senedd yn cynnwys Aelodau’r Senedd (ASau) sy’n cynrychioli’r bobl yn eu hetholaeth (ardal bleidleisio).
Llywodraeth Cymru yw’r tîm o weinidogion sy’n rhedeg gwasanaethau cyhoeddus ac yn cynnig cyfreithiau. Maen nhw’n gyfrifol am iechyd, addysg, trafnidiaeth, a llawer mwy.
Y Model Pwerau a Gadwyd yn ôl
Mae Cymru’n defnyddio system o’r enw Model Pwerau a Gadwyd yn ôl. Mae hyn yn golygu y gall y Senedd wneud cyfreithiau ar unrhyw bwnc oni bai bod Senedd y DU wedi dweud yn benodol ei fod yn fater a ‘gadwyd yn ôl’ i Senedd y DU (San Steffan) ei reoli.
Mae hyn yn rhoi rhyddid i Gymru lunio ei pholisïau ei hun, ond hefyd yn cyfyngu ar beth all y Senedd ei wneud.
Dyma enghreifftiau o bwerau a gadwyd yn ôl (pethau na all y Senedd wneud cyfreithiau neu bolisïau amdanynt):
Materion tramor
Amddiffyn
Mewnfudo
Cyfraith cyflogaeth
Pwerau Datganoledig
Y pethau y gall y Senedd wneud cyfreithiau a pholisïau amdanynt yw’r pwerau datganoledig.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Gwasanaethau iechyd (GIG Cymru)
Gwasanaethau cymdeithasol a gofal
Ysgolion, colegau a’r cwricwlwm Cymreig
Trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru
Ffyrdd a therfynau cyflymder
Tai
Amaethyddiaeth (ffermio a safonau bwyd)
Yr amgylchedd a’r hinsawdd
Yr iaith Gymraeg
Chwaraeon a diwylliant
Arian, Trethi a Chyllideb Cymru
Mae’r Senedd yn pleidleisio ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Mae’r rhan fwyaf o’r trethi rydym yn eu talu yng Nghymru yn mynd i Lywodraeth y DU. Daw’r rhan fwyaf o’r arian y mae Llywodraeth Cymru’n ei wario gan Lywodraeth y DU. Mae hyn y cael ei alw yn aml yn grant bloc.
Mae Llywodraeth y DU yn defnyddio fformiwla o’r enw Fformiwla Barnett i benderfynu faint o arian mae Llywodraeth Cymru’n ei gael.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn codi arian ei hun drwy drethi fel Treth Trafodiad Tir (stamp duty), Ardoll Ymwelwyr (treth dwristiaid) a rhywfaint o Dreth Incwm. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig pa drethi ddylai fod gennym a beth ddylai’r cyfraddau fod. Yna mae’r Senedd yn eu trafod ac yn pleidleisio a ddylid cytuno arnynt ai peidio.
Enghreifftiau o gyfreithiau a pholisïau’r Senedd
Gallwch ddod o hyd i restr o gyfreithiau a basiwyd gan y Senedd ar wefan y Senedd.
Cynrychioli pobl Cymru
Mae Aelodau’r Senedd (sydd hefyd yn cael eu galw yn ASau) yn cynrychioli’r cyhoedd ac yn ddolen rhwng y bobl a Llywodraeth Cymru.
Maen nhw’n trafod y materion sy’n wynebu pobl, yn dadlau polisïau, ac yn sicrhau bod cymunedau’n cael llais mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Craffu ar Lywodraeth Cymru
Mae’r Senedd yn dal Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae Aelodau’r Senedd yn herio Llywodraeth Cymru:
I sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn agored ac yn onest
I wella polisïau a chyfreithiau
I sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n dda.
Mae hyn yn cael ei alw yn graffu.
Mae craffu yn digwydd drwy:
Ddadleuon – Mae Aelodau’r Senedd yn trafod polisïau a chyfreithiau Llywodraeth Cymru, ac yn gallu cynnig eu rhai eu hunain. Fel arfer mae Aelodau’r Senedd yn pleidleisio ar ôl dadleuon.
Cwestiynau – Mae Aelodau’r Senedd yn gofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i weinidogion eraill. Maen nhw’n defnyddio’r cwestiynau hyn i herio penderfyniadau polisi ac i godi materion gan eu hetholwyr (y bobl maen nhw’n eu cynrychioli). Gall Aelodau’r Senedd hefyd ofyn cwestiynau ysgrifenedig i weinidogion.
Pwyllgorau – Dyma lle mae Aelodau’r Senedd yn edrych ar waith y llywodraeth yn fanwl. Mae pwyllgorau’n cynnwys Aelodau’r Senedd o wahanol bleidiau gwleidyddol (gan gynnwys y blaid neu’r pleidiau mewn llywodraeth, ond nid gweinidogion). Maen nhw’n edrych ar faterion penodol, yn casglu tystiolaeth, yn holi gweinidogion ac arbenigwyr, ac yn ysgrifennu adroddiadau gyda chynigion.
Deisebau – Gall pobl hefyd geisio newid polisïau neu gyfreithiau’r llywodraeth drwy ysgrifennu a llofnodi deisebau. Gall unrhyw un sy’n byw yng Nghymru ysgrifennu deiseb yn gofyn i’r Senedd weithredu ar fater. Os oes gan ddeiseb ddigon o gefnogwyr, bydd y Senedd yn trafod y mater.