Hawdd ei Ddarllen - Pam y gallwch ymddiried yn y wefan hon?

PDF Cymraeg 41 KB

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.

Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, corff annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Bwrdd a'r Comisiwn ar wahân i Lywodraeth Cymru, y Senedd, a phob plaid wleidyddol yng Nghymru.  

Mae popeth y mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn ei wneud yn wleidyddol niwtral (diduedd). Ei nod yw cryfhau iechyd democrataidd Cymru drwy sicrhau bod pobl yn derbyn gwybodaeth am etholiadau y gallant ymddiried ynddi, waeth beth fo'u barn wleidyddol.  

Daw'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y wefan hon o gymysgedd o lefydd. Mae gwybodaeth a ysgrifennwyd gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol wedi'i gwirio am gywirdeb, tra bod gwybodaeth arall wedi dod gan bartneriaid dibynadwy fel y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth y DU, Comisiwn y Senedd, a Swyddogion Canlyniadau (y bobl sy’n gyfrifol am redeg etholiadau’n lleol).  

Mae'r wefan hon yn cynnwys rhai dolenni i safleoedd dibynadwy eraill.  

Rydym wedi cael y wybodaeth am orsafoedd pleidleisio (lle rydych yn pleidleisio yn bersonol), gan gynnwys y trefniadau hygyrchedd, a rhestr y pleidiau a'r ymgeiswyr sy'n sefyll ym mhob etholaeth (ardal bleidleisio), gan y Swyddogion Canlyniadau. Mae'r Democracy Club, partner dibynadwy (sy'n Gwmni Buddiant Cymunedol), yn ein cefnogi i ddarparu rhywfaint o'r wybodaeth yma. 

Gall ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol gyhoeddi eu hanerchiadau etholiadol ar y wefan hon. Fersiwn ar-lein o'r taflenni a anfonir at bob pleidleisiwr yn rhad ac am ddim gan y Post Brenhinol yw’r anerchiadau etholiadol. Mae gan bob ymgeisydd neu blaid wleidyddol y cyfle i gyflwyno anerchiad etholiadol ar y wefan hon. Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadau yn eu cyhoeddi ar y wefan hon heb eu newid. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr a'r pleidiau gwleidyddol yw cynnwys anerchiadau etholiadol. Dylid darllen anerchiadau etholiadol fel taflen ymgyrchu, nid fel gwybodaeth niwtral. 

Ni ddefnyddiwyd Deallusrwydd Artiffisial (Artificial Intelligence) i greu cynnwys ar y wefan hon.  

Os byddwch yn dod o hyd i broblem gydag unrhyw wybodaeth a bostiwyd ar y wefan hon, rhowch wybod i ni drwy e-bostio brhe@cdffc.llyw.cymru