Ymgeiswyr etholiad y Senedd wedi'u cadarnhau
Mae modd dod o hyd i bob plaid ac ymgeisydd sy'n sefyll ar bwrwpleidlais.cymru
Bydd 675 o ymgeiswyr yn cystadlu am eich pleidleisiau yn etholiad y Senedd ar 7 Mai wrth i'r rhestrau swyddogol gael eu cadarnhau.
Daeth y cyfnod enwebu ar gyfer ymgeiswyr etholiad y Senedd i ben am 16:00 ar 9 Ebrill, ac mae gwybodaeth am bob ymgeisydd bellach ar gael yn bwrwpleidlais.cymru fel y gallwch weld dros bwy y gallwch bleidleisio yn yr etholiad.
Mae Cymru wedi'i rhannu'n 16 etholaeth yn yr etholiad ar 7 Mai, a bydd pob etholaeth yn ethol 6 Aelod o'r Senedd gan ddefnyddio system bleidleisio gyfrannol rhestr gaeedig. Byddwch yn cael un papur pleidleisio a gallwch bleidleisio dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol.
Mae'r system bleidleisio hon yn golygu y bydd nifer y seddi y mae plaid yn eu hennill mewn etholaeth yn cyfateb yn fras i'w chyfran o'r bleidlais. Er enghraifft, os yw plaid yn cael 50% o'r bleidlais, byddant yn ennill 3 allan o'r 6 sedd sydd ar gael.
Ym mhob etholaeth, caniatawyd i bleidiau gwleidyddol enwi hyd at 8 ymgeisydd i sefyll yn yr etholiad. Gall ymgeiswyr hefyd sefyll fel ymgeiswyr annibynnol.
At ei gilydd, mae 675 o ymgeiswyr wedi cyflwyno eu hunain i'w hethol ar gyfer y 96 sedd sydd ar gael yn y Senedd nesaf.
Mae'r ymgeiswyr hyn yn cynrychioli 16 o bleidiau gwleidyddol, tra bod 30 o bobl yn sefyll fel ymgeiswyr annibynnol.
Gallwch ddarganfod yn union pwy sy'n sefyll yn eich etholaeth drwy ddefnyddio'r chwiliad cod post ar bwrwpleidlais.cymru. Bydd y chwiliad cod post hefyd yn dweud wrthych ble mae eich gorsaf bleidleisio, pa nodweddion hygyrchedd sydd gan eich gorsaf bleidleisio, a pha etholaeth y byddwch chi'n pleidleisio ynddi.
Os ydych chi eisiau gweld pwy sy'n sefyll mewn mannau eraill yng Nghymru gallwch ddefnyddio'r dudalen "Pori yn ôl etholaeth" ar bwrwpleidlais.cymru.
Mae bwrwpleidlais.cymru yn wefan newydd sbon yn etholiad y Senedd eleni sy'n bodoli i roi hyder i bobl pan fyddant yn mynd i bleidleisio. Fe'i rheolir gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru, rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
O ddydd Iau, 16 Ebrill, bydd taflenni ymgeiswyr hefyd yn cael eu cyhoeddi ar bwrwpleidlais.cymru fel y gallwch weld nid yn unig pwy sy'n sefyll, ond beth maen nhw'n sefyll drosto.
Mae gan bwrwpleidlais.cymru wybodaeth hefyd am sut i bleidleisio yn yr etholiad hwn, yn ogystal â phwy all bleidleisio, a beth mae'r Senedd yn gyfrifol amdano.
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi gwybodaeth am ymgeiswyr, dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Fe wnaethon ni greu bwrwpleidlais.cymru i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar bobl cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.
“Nawr bod ymgeiswyr wedi'u cadarnhau ledled Cymru, gall pobl ddarganfod yn union pwy y gallant bleidleisio drosto gyda chwiliad cod post syml.
“Rydym yn ddiolchgar i'r holl Swyddogion Canlyniadau a staff etholiadau ledled Cymru sy'n gweithio mor galed i gyflawni'r etholiad hwn. Diolch i'w gwaith caled y gall pobl nawr fynd i bwrwpleidlais.cymru i weld pwy sy'n sefyll yn eu hetholaeth.”
“Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr etholiad hwn, bwrwpleidlais.cymru yw'r lle i fynd. Mae hyder pleidleisio yn dechrau yma.”
Yn yr etholiad ar 7 Mai, bydd pleidleiswyr yn pleidleisio unwaith dros eu plaid neu ymgeisydd annibynnol dewisol. I bleidleisio yn yr etholiad, mae angen i chi fod wedi cofrestru erbyn 20 Ebrill. Nid oes angen i chi ddod â cerdyn adnabod gyda llun gyda chi i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.