Graffeg cartŵn o fenyw yn dal gliniadur ac yn dangos gwefan bwrwpleidlais.cymru ar y sgrin

Canfu ymchwil flaenorol nad yw tua 400,000 o bobl yng Nghymru wedi'u cofrestru'n gywir. Mae oedran yn parhau i gael effaith sylweddol ar gofrestru – dim ond 43% o bobl 16–17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio, o'i gymharu â 95% o'r rhai sydd dros 65 oed. Mae grwpiau eraill sy'n llai tebygol o fod wedi cofrestru yn cynnwys myfyrwyr, pobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar, rhentwyr preifat, a dinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru.

Mae'r ymgyrch wedi'i chynllunio i annog pobl i ddathlu a bod yn falch o fod ar y gofrestr etholiadol, gyda hysbysebion yn cynnwys grwpiau amrywiol o bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio, gan ei ddangos i ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr. Fel rhan o lansiad yr ymgyrch, bydd adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yn cael ei oleuo gyda'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru nos Fercher 11 Mawrth.

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:

“Mae’n bwysig bod pobl yn gwirio eu bod wedi cofrestru i bleidleisio cyn etholiad y Senedd sydd ar ddod ar 7 Mai. Mae unrhyw un sy'n byw yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad yn gymwys i bleidleisio.

“Os nad ydych chi erioed wedi cofrestru o’r blaen, os ydych wedi newid eich enw’n ddiweddar neu wedi symud tŷ, dim ond pum munud y mae’n ei gymryd i ddiweddaru eich manylion ar-lein. Mae gwirio nawr yn helpu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn yr etholiad hwn.”

Ar ôl iddynt gofrestru, bydd gan bleidleiswyr ystod o ddewisiadau – gallant bleidleisio’n bersonol, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais drwy ddirprwy. Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.