Gwybodaeth hygyrchedd wedi'i chyhoeddi ar gyfer gorsafoedd pleidleisio Cymru
Gall pobl wirio hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio ar-lein am y tro cyntaf mewn etholiad Cymreig
Mae gwybodaeth hygyrchedd wedi'i chyhoeddi ar-lein ar gyfer gorsafoedd pleidleisio Cymru am y tro cyntaf ar bwrwpleidlais.cymru.
Mae bwrwpleidlais.cymru yn wefan wybodaeth newydd sbon i bleidleiswyr a lansiwyd i roi hyder i bobl wrth iddynt bleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai 2026.
Mae'r wefan yn cael ei rheoli gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru, rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Gan ddefnyddio eu cod post, gall pleidleiswyr nawr ddarganfod ble byddant yn pleidleisio ar 7 Mai 2026, ac yn hollbwysig, pa mor hygyrch yw eu gorsaf bleidleisio.
Mae'r wybodaeth sydd newydd ei chyhoeddi yn cynnwys:
• A yw'r orsaf bleidleisio yn strwythur dros dro
• A oes parcio, gan gynnwys parcio i bobl anabl gerllaw
• A oes mynediad heb risiau i'r orsaf bleidleisio
• A oes ramp dros dro yn bresennol os nad oes mynediad heb risiau
• A oes dolen glyw yn yr adeilad
• A oes toiledau hygyrch i'r cyhoedd ar y safle
Gall pobl ddod o hyd i'r wybodaeth bwysig hon trwy ddefnyddio'r chwiliad cod post ar bwrwpleidlais.cymru ac yna clicio ar gyfeiriad eu gorsaf bleidleisio.
Mae cyhoeddi'r wybodaeth hon cyn yr etholiad yn rhoi cyfle i bleidleiswyr gynllunio ymlaen llaw ar gyfer diwrnod yr etholiad.
Mae bwrwpleidlais.cymru wedi gallu cyhoeddi gwybodaeth hygyrchedd ar gyfer 2,164 o'r 2,171 o orsafoedd pleidleisio yng Nghymru.
Mae bwrwpleidlais.cymru hefyd wedi cyhoeddi canllaw i bleidleisio hygyrch, gan roi gwybod i bobl beth yw eu hawliau pan fyddant yn mynd i bleidleisio a pha gefnogaeth sydd ar gael.
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi gwybodaeth hygyrchedd, dywedodd Prif Weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae bwrwpleidlais.cymru yn bodoli i droi pryder pleidleisio yn hyder pleidleisio. Rydym am i bawb allu mynd i bleidleisio ar 7 Mai gyda’r holl wybodaeth am yr hyn y mae eu gorsaf bleidleisio yn ei gynnig.
“Os oes gennych fwy o gwestiynau am hygyrchedd eich gorsaf bleidleisio, rydym hefyd wedi cyhoeddi manylion cyswllt ar gyfer eich cyngor a fydd yn gallu helpu.
“Mae gan bwrwpleidlais.cymru gyngor hefyd ar eich hawliau i bleidleisio mewn ffordd sy’n hygyrch i chi, yn ogystal â chanllawiau ar bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy os na allwch gyrraedd yr orsaf bleidleisio ar 7 Mai.
“Hoffem ddiolch i’n partneriaid ar draws cynghorau Cymru yn ogystal â Democracy Club am ei gwneud hi’n bosibl cyhoeddi’r holl wybodaeth hon am y tro cyntaf.”
Dewch o hyd i wybodaeth hygyrchedd
Defnyddiwch y chwiliwr cod post