Dysga beth mae ymgeiswyr etholiad yn sefyll drosto
Mae taflenni etholiad wedi cael eu cyhoeddi ar bwrwpleidlais.cymru
Mae taflenni etholiad rhadbost ar gyfer pleidiau ac ymgeiswyr annibynnol sy'n sefyll yn etholiad y Senedd wedi'u cyhoeddi ar-lein yn bwrwpleidlais.cymru.
Gall pleidleiswyr weld y taflenni a dysgu'n union beth mae'r ymgeiswyr yn eu hardal yn ei gynrychioli drwy ymweld â gwefan gwybodaeth etholiadau newydd bwrwpleidlais.cymru.
Mae bwrwpleidlais.cymru yn wefan newydd sbon, a lansiwyd ar gyfer etholiad y Senedd eleni. Ei phwrpas yw troi pryder pleidleisio yn hyder pleidleisio.
Mae bwrwpleidlais.cymru yn cael ei reoli gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru, rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Cyhoeddwyd gwybodaeth am ymgeiswyr ar bwrwpleidlais.cymru ar 10 Ebrill, gan ganiatáu i bobl ar draws 16 etholaeth y Senedd ddarganfod pwy sy'n gofyn am eu pleidlais. Nawr, mae'r wefan hefyd wedi cyhoeddi eu taflenni fel bod pobl nid yn unig yn gwybod pwy sy'n sefyll, ond beth maen nhw'n sefyll drosto.
Gallwch ddod o hyd i'r ymgeiswyr a'r taflenni ar gyfer eich ardal gyda chwiliad cod post syml, neu gallwch weld gwybodaeth o bob cwr o Gymru drwy bori'r 16 etholaeth. Gall ymgeiswyr a phleidiau nad ydynt wedi cyflwyno taflenni i'w cyhoeddi ar-lein eto wneud hynny o hyd, a bydd mwy yn cael eu cyhoeddi bob dydd Iau cyn diwrnod yr etholiad ar 7 Mai.
Mae gan bwrwpleidlais.cymru wybodaeth hefyd am sut i bleidleisio yn yr etholiad hwn, yn ogystal â phwy all bleidleisio, a beth mae'r Senedd yn gyfrifol amdano.
Wrth wneud sylwadau ar gyhoeddi taflenni etholiad, dywedodd prif weithredwr Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Shereen Williams MBE OStJ:
“Mae hwn yn etholiad pwysig iawn, a dyma'r etholiad cyntaf lle gall pobl weld y taflenni hyn ar-lein ar bwrwpleidlais.cymru.
“Mae gan bwrwpleidlais.cymru yr holl wybodaeth sydd ei hangen i droi pryder pleidleisio yn hyder pleidleisio. Gallwch weld ble i bleidleisio, pwy allwch bleidleisio drosto, a nawr, pam mae pleidiau ac ymgeiswyr yn meddwl y dylech bleidleisio drostynt.
“Ewch i bwrwpleidlais.cymru a dysgwch am yr etholiad hwn. Pleidleisiwch gyda hyder.”
Mae pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol yn gyfrifol am gyflwyno eu taflenni i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol i'w cyhoeddi ar bwrwpleidlais.cymru.
Dim ond taflenni etholiad a gyflwynir i'r Bwrdd Rheoli Etholiadol fydd yn cael eu cyhoeddi.
Nid yw'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn gyfrifol am gynnwys taflenni, ac nid yw'n diwygio na chyfieithu unrhyw gynnwys a gyflwynir. Cyfrifoldeb llwyr yr ymgeiswyr a'u hasiantau yw cynnwys ac iaith y taflenni.