Graffeg cartŵn o adeilad y Senedd

Mae Bwrdd Rheoli Etholiadau Cymru wedi diolch i'r bobl ledled y wlad a weithiodd i gynnal etholiadau'r Senedd.

Mae hefyd wedi cyhoeddi canlyniadau llawn yr etholiad ar bwrwpleidlais.cymru, tra bydd gwaith bellach yn dechrau ar baratoi gwefan gwybodaeth pleidleiswyr Cymru ar gyfer etholiadau cyngor y flwyddyn nesaf.

Wrth wneud sylwadau yn dilyn yr etholiad, dywedodd Cadeirydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, Karen Jones:

“Cafodd yr etholiad Senedd hwn ei gynnal o dan fframwaith newydd. Mae Swyddogion Canlyniadau a'u timau ledled Cymru wedi gwneud gwaith rhagorol wrth ymateb i'r newidiadau - etholaethau newydd, system bleidleisio newydd, a mwy o Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol nag o'r blaen.

“Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol eisiau cofnodi ei ddiolch i bawb a sicrhaodd fod pleidleiswyr yn gallu bwrw eu pleidlais, y staff cyfrif a gyfrifodd filoedd o bapurau pleidleisio yn amyneddgar ac yn ddiwyd a'r nifer o bartneriaid a helpodd i esbonio'r rheolau ar gyfer yr etholiad hwn a chefnogi'r swyddogion canlyniadau yn y rôl bwysig y maent yn ei chyflawni.

“Rydym hefyd yn falch o fod wedi gallu cyflwyno platfform gwybodaeth bwrwpleidlais.cymru - yr etholiad cyntaf lle mae pleidleiswyr wedi cael mynediad at 'siop un stop' ddigidol o wybodaeth ar gyfer etholiad Senedd. Byddwn nawr yn gwerthuso'r platfform ac yn defnyddio canfyddiadau'r ymchwil i lywio datblygiadau yn y dyfodol.”