Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadau a’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn casglu a defnyddio data personol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth a sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn ddiogel.

 

Pleidleiswyr

Ymgeiswyr ac asiantau

Cyflwyniad

Mae vote.wales / bwrwpleidlais.cymru wedi ei greu gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol i ddarparu gwybodaeth ddiduedd, gywir, a dibynadwy i bleidleiswyr. Am ragor o wybodaeth am y wefan, ewch i Pam alla i ymddiried yn y wefan hon?

 

Mae’r gofynion ar gyfer Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymreig wedi eu nodi mewn deddfwriaeth. Ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau’r Prif Gynghorau, rhaid i’r wefan gyhoeddi:

        hysbysiadau etholiad swyddogol a gyhoeddir gan Swyddogion Canlyniadau

        lleoliad gorsafoedd pleidleisio a gwybodaeth am bwy sydd â’r hawl i bleidleisio yno  

        trefniadau hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio

        gwybodaeth am ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n sefyll yn yr etholiadau

        taflenni etholiadol pleidio gwleidyddol ac ymgeiswyr unigol

        canlyniadau etholiad

Gall y wefan hefyd gyhoeddi gwybodaeth arall sy’n cefnogi cyfranogiad mewn etholiadau a phrosesau democrataidd.

 

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ynghylch sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth a sicrhau ei bod yn cael ei thrin yn ddiogel.

Pwy ydym ni

Y Bwrdd Rheoli Etholiadol (BRhE)

Yn gyfrifol am gydlynu etholiadau a refferenda ledled Cymru, ac am ddylunio, lansio a chynnal Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymreig.  

 

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfC)

 

Wedi ei benodi yn rheolwr data ar ran y BRhE. Mae’r CDFfC yn gorff hyd braich sy’n annibynnol o Lywodraeth Cymru.

 

Manylion cyswllt:

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, 4ydd Llawr, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

 

E-bost: ymholiadau@cdffc.llyw.cymru

 

Y data personol rydyn ni’n ei gasglu  

Rydym yn casglu gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio'r wefan, gan gynnwys:

·                     eich cyfeiriad IP a'ch fersiwn porwr

·                     tudalennau yr ymwelwyd â nhw a'r amser a dreuliwyd ar bob tudalen

·                     sut y gwnaethoch gyrraedd y safle

·                     beth rydych chi'n clicio arno wrth ddefnyddio'r wefan

 

Pan fyddwch chi'n rhoi caniatâd, rydym yn defnyddio:

·                     Cwcis Google Analytics

·                     Cwci Monitro Defnyddiwr Go Iawn (RUM) o SpeedCurve

 

Os oes gennych gyfrif Google gyda phersonoli hysbysebion (ad personalisation) wedi’i alluogi, gall data demograffig a diddordebau dienw ymddangos mewn adroddiadau dadansoddeg cyfanredol (aggregated). Mae hyn yn ein helpu i ddeall y mathau cyffredinol o ddefnyddwyr sy'n ymweld â'r wefan.

Rydym yn cymryd camau i sicrhau na ellir eich adnabod yn uniongyrchol o ddata dadansoddeg drwy:

        ddileu neu leihau gwybodaeth bersonol mewn paramedrau digwyddiad er enghraifft, URLs, teitlau tudalennau, neu ddata clicio dolen.

        peidio â storio na chofnodi cyfeiriadau IP yn Google Analytics

        peidio cyfuno data dadansoddol gyda setiau data eraill mewn ffordd a allai eich adnabod

Rydym yn casglu’r data personol canlynol pan fyddwch yn cyflwyno anerchiad etholiadol:

        enw’r cyflwynydd

        cyfeiriad e-bost y cyflwynydd

 

Rydym hefyd yn storio data personol amdanoch a ddarperir gan y Swyddog Canlyniadau. Mae hyn yn cynnwys:

        enwau ymgeisydd ac asiant etholiad

        cyfeiriad e-bost ymgeiswyr ac asiant etholiad

        plaid wleidyddol (lle bo’n berthnasol)

        cyfeiriad cartref neu ardal berthnasol

 

 

Data technegol: logiau technegol a diogelwch gan gynnwys cyfeiriadau IP, gwybodaeth porwr a stamp amser mynediad

Sut rydym yn casglu eich data

Mae data dadansoddeg yn cael ei gasglu'n awtomatig pan fyddwch chi'n defnyddio'r wefan, yn amodol ar eich dewisiadau cwcis.

Mae Swyddogion Canlyniadau yn casglu gwybodaeth am ymgeiswyr ac asiantau yn ystod y broses enwebu at eu dibenion statudol eu hunain. Yna maent yn rhannu'r data hwn gyda ni yn ddiogel i gefnogi'r broses cyflwyno anerchiadau etholiadol ar-lein.

 

Mae data dadansoddeg yn cael ei gasglu'n awtomatig pan fyddwch chi'n defnyddio'r wefan, yn amodol ar eich dewisiadau cwcis.

 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu

O dan GDPR y DU, rydym yn dibynnu ar Erthygl 6(1)(a) – Cydsyniad.

Defnyddir dim ond pan fyddwn yn gofyn yn benodol am eich cydsyniad (e.e., cwcis dadansoddeg)

 

O dan GDPR y DU, rydym yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol: Erthygl 6(1)(e) – Tasg gyhoeddus.

Mae prosesu’n angenrheidiol er mwyn i ni gyflawni swyddogaethau swyddogol o dan Reoliadau Platfform Gwybodaeth Etholiadau Cymreig 2025.

 

Nid ydym yn:

        gwneud penderfyniadau gan ddefnyddio dulliau awtomataidd

        defnyddio eich data personol ar gyfer proffilio

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn casglu eich data personol er mwyn:

     gwella ein gwasanaethau gydag adborth

     ymateb i ymholiadau pan ofynnir amdanynt 

     monitro diogelwch y safle 

     adnabod problemau perfformiad a gwallau

     dadansoddi'r defnydd i sicrhau bod y wefan yn diwallu anghenion defnyddwyr

 

Rydym yn casglu a defnyddio eich data personol i sicrhau:

        i wirio mai dim ond unigolion awdurdodedig sy’n gallu cyflwyno anerchiad etholiadol

        i sicrhau bod y broses gyflwyno yn ddiogel ac wedi’i diogelu rhag bygythiadau seiber

        i gyhoeddi gwybodaeth sy’n ofynnol gan y gyfraith ar bwrwpleidlais.cymru / vote.wales

Rhannu eich gwybodaeth

Efallai y bydd ein cyflenwr meddalwedd yn cael mynediad at rywfaint o ddata fel prosesydd data, gan weithredu ar ein cyfarwyddiadau ni yn unig.

 

Efallai y byddwn yn darparu data cyfanredol (aggregated), na ellir ei adnabod, i Weinidog Cymru perthnasol ar gyfer adrodd statudol ar weithredu bwrwpleidlais.cymru / vote.wales.

 

Efallai y bydd ein cyflenwr meddalwedd yn cael mynediad at rywfaint o ddata fel prosesydd data, gan weithredu ar ein cyfarwyddiadau ni yn unig.

 

Efallai y byddwn yn darparu data cyfanredol (aggregated), na ellir ei adnabod, i Weinidog Cymru perthnasol ar gyfer adrodd statudol ar weithredu bwrwpleidlais.cymru / vote.wales.

 

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth benodol ar bwrwpleidlais.cymru / vote.wales fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, gan gynnwys:

        enw ymgeisydd

        plaid wleidyddol (lle bo’n berthnasol)

        cyfeiriad cartref neu ardal berthnasol

Nid yw cyfeiriadau e-bost ymgeiswyr, asiantau na chyflwynwyr byth yn cael eu cyhoeddi.

Diogelu preifatrwydd plant

Mae ein gwasanaethau wedi'u cynllunio ar gyfer pleidleiswyr.

 

Gan mai'r oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru yw 16, nid yw ein gwasanaethau wedi'u cynllunio ar gyfer plant 16 oed neu’n iau nac wedi'u targedu'n fwriadol atynt. Nid ydym yn casglu nac yn cadw data am unrhyw un o dan 16 oed yn fwriadol.

Rhaid i ymgeisydd neu asiant etholiad fod yn 18 oed neu'n hŷn.  Ni ddylai unrhyw blant allu cael mynediad i'r system cyflwyno anerchiadau etholiadol ar-lein.

Trosglwyddo data rhyngwladol

Nid ydym yn trosglwyddo data yn rhyngwladol yn y platfform hwn. Mae'r holl ddata yn aros yn y DU.

Cadw data

Bydd data personol yn cael ei gadw am yr amser sy'n angenrheidiol i gyflawni'r dibenion y’u casglwyd ar eu cyfer. Byddai hyn yn cynnwys bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifo neu adrodd. Ar y pwynt nad oes angen y data mwyach, bydd yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn saff yn unol â'r Amserlen Cadw Data.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn am:

     wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu

     copi o’r data personol hwnnw

     cywiro data personol anghywir

·         lle nad CDFfC yw crëwr y data, byddwn yn anfon eich cais ymlaen at y parti perthnasol

Gallwch hefyd:

     fynegi gwrthwynebiad ynglŷn â sut mae eich data personol yn cael ei brosesu

     gwneud cais i’ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad drosto mwyach (nid yw hyn yn berthnasol i ymgeiswyr ac asiantau etholiadol lle mae eu data personol yn cael ei brosesu o dan dasg gyhoeddus)

     gofyn i brosesu eich data personol gael ei gyfyngu mewn amgylchiadau penodol

Sut rydym yn diogelu eich data

Rydym yn defnyddio mesurau technegol a sefydliadol i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel, gan gynnwys:

·         amgryptio wrth ei gludo ac wrth orffwys

·         rheolaethau dilysu ac awdurdodi cryf

·         systemau TG diogel ac archwiliadau rheolaidd

·         profion diogelwch annibynnol

        hyfforddi staff a pholisïau diogelu data

·         mynediad yn seiliedig ar rôl ac angenrheidrwydd

        preswyliad data yn y DU

Sut ydw i'n cwyno os nad ydw i'n hapus

Os ydych yn anhapus gydag unrhyw agwedd ar yr hysbysiad preifatrwydd hwn, neu sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, cysylltwch â Chomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru gyda’r manylion uchod.

 

Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Comisiwn yn DataProtectionOfficer@llyw.cymru. Mae'r Swyddog Diogelu Data yn darparu cyngor annibynnol a monitro defnydd y Comisiwn o wybodaeth bersonol.

 

Os oes gennych gŵyn am sut mae eich data wedi'i brosesu, rhaid i chi wneud y gŵyn honno i'r CDFfC yn gyntaf.  Gallwch wneud cwyn trwy gysylltu â'r CDFfC neu ei Swyddog Diogelu Data, fel uchod.

 

Os nad ydych yn hapus â sut mae'r CDFfC yn delio â'ch cwyn, yna mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

 

Cyfeiriad: Information Commissioner’s Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF

E-bost: casework@ico.org.uk

Cysylltu â ni | ICO

Diweddariadau i’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen. Y fersiwn gyfredol yw'r mwyaf diweddar.