Hysbysiad cyfreithiol y wefan
Yr hysbysiad cyfreithiol ar gyfer bwrwpleidlais.cymru / vote.wales
Gwefan
www.bwrwpleidlais.cymru / www.vote.wales
Gweithredwr
Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru
Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru (BRhE) yn rhan o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn), corff annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r BRhE a’r Comisiwn yn gweithredu’n annibynnol o Lywodraeth Cymru, y Senedd, a phob plaid wleidyddol yng Nghymru.
Pwrpas y wefan
Crëwyd bwrwpleidlais.cymru / vote.wales gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru i ddarparu gwybodaeth ddiduedd, gywir a dibynadwy ar gyfer pleidleiswyr. I gael mwy o wybodaeth am y wefan, ewch i'r dudalen yma.
Mae’r wefan wedi’i chynllunio i fodloni’r gofynion ar gyfer Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig fel y nodir mewn deddfwriaeth. Ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau Prif Gynghorau, mae’n rhaid i’r wefan gyhoeddi:
hysbysiadau etholiad swyddogol a gyhoeddir gan Swyddogion Canlyniadau
lleoliad gorsafoedd pleidleisio a gwybodaeth am bwy sydd â hawl i bleidleisio yno
trefniadau hygyrchedd mewn gorsafoedd pleidleisio
gwybodaeth am ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n sefyll yn yr etholiad
anerchiadau etholiadol pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol
canlyniadau etholiad
Gall y wefan hefyd gyhoeddi unrhyw wybodaeth sy’n cefnogi cymryd rhan mewn etholiadau a phrosesau democrataidd.
Telerau defnydd
Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn anelu i sicrhau fod bwrwpleidlais.cymru / vote.wales ar gael bob amser (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos). Fodd bynnag, nid yw’r BRhE yn derbyn unrhyw atebolrwydd os na fydd y wefan ar gael am unrhyw gyfnod. Gall y BRhE atal y wefan ar unrhyw amser ar gyfer cynnal a chadw, methiannau system, neu unrhyw reswm arall a ystyrir yn angenrheidiol.
Drwy gael mynediad i’r wefan hon, mae defnyddwyr yn cytuno i’w defnyddio yn gyfreithlon ac yn gyfrifol. Ni ddylai defnyddwyr:
ymyrryd â neu amharu ar y wefan neu ei nodweddion diogelwch
gamddefnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir ar y wefan
geisio cael mynediad i ardaloedd cyfyngedig neu ardaloedd o'r system nad ydynt yn gyhoeddus
Gall defnyddwyr weld, argraffu a lawrlwytho rhannau o’r wefan hon at ddefnydd personol, anfasnachol, ar yr amod:
nad yw’r cynnwys wedi’i addasu
na chaiff unrhyw ran o’r wefan ei chopïo, ei gwerthu, ei phrydlesu, ei rhentu, ei thrwyddedu, ei dosbarthu na’i neilltuo i unrhyw drydydd parti mewn unrhyw ffordd arall.
Mae’r BRhE yn cadw’r hawl i ddiwygio neu ddiweddaru’r telerau hyn ar unrhyw amser.
Cywirdeb gwybodaeth
Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn anelu i sicrhau fod y wybodaeth ar bwrwpleidlais.cymru / vote.wales yn gywir, yn diduedd a chyfredol. Fodd bynnag, darperir rhywfaint o’r data gan sefydliadau allanol y mae gan y BRhE reolaeth gyfyngedig drostynt. Mae’r wybodaeth ganlynol wedi ei ddarparu gan ffynonellau allanol:
Swyddogion Canlyniadau (wedi’u penodi yn annibynnol i gynnal etholiadau)
data gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys gwybodaeth hygyrchedd
hysbysiadau etholiadol swyddogol
gwybodaeth ymgeiswyr
canlyniadau cyfrif
Democracy Club (cwmni buddiant cymunedol sy’n darparu gwybodaeth etholiadol annibynnol ar draws y DU)
darperir gwybodaeth am ddyrannu, cyfeiriad a hygyrchedd gorsafoedd pleidleisio gan Swyddogion Canlyniadau ac fe’i prosesir a’i rheolir gan y Democracy Club
Comisiwn Etholiadol (corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio pleidiau gwleidyddol yn y DU)
darperir arwyddluniau pleidiau a arddangosir ar dudalennau gwybodaeth ymgeiswyr gan y Comisiwn Etholiadol
Anerchiadau Etholiadol – Cyfrifoldeb pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr yw’r Anerchiadau Etholiadol a gyhoeddir ar bwrwpleidlais.cymru / vote.wales.
Yn naturiol, mae Anerchiadau Etholiadol yn ddeunydd ymgyrchu gwleidyddol ac felly nid ydynt yn wleidyddol niwtral.
Ni all y BRhE ddiwygio, golygu nac ymyrryd â’r anerchiadau hyn.
Mae deddfwriaeth yn gwahardd cynnwys sy’n anweddus, yn dramgwyddus, neu fel arall yn anghyfreithlon.
Mae’r BRhE yn adolygu pob anerchiad cyn eu cyhoeddi, ond mae’r cyfrifoldeb cyfreithiol am y cynnwys ar yr ymgeisydd, neu’r ymgeiswyr, a’u hasiant etholiadol.
Safonau'r Gymraeg
Mae’r BRhE yn cydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg lle bo’n berthnasol. Cyhoeddir yr holl ddeunydd sydd o fewn rheolaeth y BRhE yn Gymraeg a Saesneg.
Eithriadau:
Mae rhywfaint o ddeunydd y tu hwnt i reolaeth y BRhE sy'n golygu bod rhywfaint o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn Saesneg yn unig ar dudalennau Cymraeg. Gallai'r wybodaeth yma gynnwys:
Data gan Swyddogion Canlyniadau – ni ddarperir yr holl wybodaeth yn ddwyieithog. Nid yw Swyddogion Canlyniadau yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg.
Anerchiadau Etholiadol – mae gan bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr ddewis i gyflwyno eu hanerchiadau yn Gymraeg, yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith.
Dolenni allanol
Mae bwrwpleidlais.cymru / vote.wales yn cynnwys dolenni i wefannau allanol. Dim ond i bartneriaid y gellir ymddiried ynddynt y darperir rhain, fel Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Etholiadol. Fodd bynnag, nid yw’r BRhE yn rheoli nac yn gyfrifol am gynnwys, diogelwch nac arferion preifatrwydd gwefannau allanol.
Eiddo deallusol
Oni nodir yn wahanol:
Mae holl ddeunydd, testun, graffeg a deunydd arall ar y wefan hon yn berchen i neu wedi eu trwyddedu i’r BRhE
Gall defnyddwyr lawrlwytho cynnwys at ddefnydd personol, anfasnachol
Gwaherddir atgynhyrchu neu ailddosbarthu at ddibenion masnachol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw
Darperir arwyddluniau pleidiau a arddangosir ar y wefan gan y Comisiwn Etholiadol. Cysylltwch â’r Comisiwn Etholiadol i ddefnyddio’r arwyddluniau mewn mannau eraill.
Preifatrwydd a diogelu data
Prosesir unrhyw ddata personol a gyflwynir i bwrwpleidlais.cymru / vote.wales yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a Pholisi Preifatrwydd y Wefan.
Nid yw dolenni i wefannau allanol wedi’u cynnwys yn ein Polisi Preifatrwydd. Dylai defnyddwyr wirio datganiadau preifatrwydd unrhyw wefannau trydydd parti maent yn eu defnyddio.
Dewch o hyd i hysbysiad preifatrwydd y wefan yma [dolen i'w gyhoeddi yn fuan].
Hygyrchedd
Mae’r BRhE yn ymrwymedig i sicrhau fod y wefan yn hygyrch i gynifer o ddefnyddwyr â phosibl.
Dewch o hyd i’r Datganiad Hygyrchedd yma [dolen i'w gyhoeddi yn fuan].
Cyfraith lywodraethol
Crëwyd y wefan hon yn unol â dyletswydd statudol Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru i ddarparu Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig. Mae’r gofynion cyfreithiol sy’n llywodraethu’r platfform yma wedi eu nodi yn Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, pryderon, neu gwynion am y wefan cysylltwch â ni ar:
Cyfeiriad e-bost – brhe@cdffc.llyw.cymru
Cyfeiriad postio - Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, 4ydd Llawr, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ