Hawdd ei Ddarllen

Hawdd ei Ddarllen - Sut mae'r system bleidleisio yn gweithio

PDF Cymraeg 43.2 KB

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.

Cofrestru i bleidleisio

Cofrestrwch i bleidleisio yn etholiad y Senedd erbyn dydd Llun 20 Ebrill 2026. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein.

Beth sydd angen i chi ei wybod

Diweddarwch eich dewisiadau cwci i weld y cynnwys hwn

Mae etholiad y Senedd yn digwydd ar ddydd Iau 7 Mai 2026.

Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.

Bydd 96 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol yn yr etholiad hwn.

Cyn yr etholiad roedd 60 Aelod o’r Senedd.

Gallwch bleidleisio unwaith, ar gyfer plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol.

Mae Cymru wedi'i rhannu'n 16 ardal bleidleisio, sydd yn cael eu galw yn etholaethau.

Bydd 6 Aelod o’r Senedd yn cael eu hethol ym mhob etholaeth.

Dros bwy allwch chi bleidleisio?

Gall pleidiau gwleidyddol ddewis hyd at 8 o bobl i sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiad ym mhob etholaeth (ardal bleidleisio).

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am eich etholaeth yma.

Y pleidiau gwleidyddol sydd yn dewis ym mha drefn y bydd yr ymgeiswyr yn ymddangos ar y papur pleidleisio.

Os yw plaid wleidyddol yn ennill 1 sedd mewn etholaeth, bydd yr ymgeisydd sydd yn gyntaf ar eu rhestr yn cael ei ethol.

Bydd rhai ymgeiswyr yn yr etholiad ddim yn cynrychioli plaid wleidyddol. Ymgeiswyr annibynnol neu unigol yw’r rhain.

Pleidleisio

Byddwch yn pleidleisio unwaith ar gyfer y blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol rydych am ei weld yn ennill.

Byddwch yn cael un papur pleidleisio ac yn nodi (X) wrth ochr y blaid neu’r ymgeisydd annibynnol yr ydych yn dymuno pleidleisio drostynt.

Graffeg cartŵn yn dangos llaw yn dal papur pleidleisio

Cyfri

Bydd pleidleisio’n cau am 10pm dydd Iau 7 Mai 2026.

Bydd pleidleisiau’n cael eu cyfri dydd Gwener 8 Mai 2026, a bydd disgwyl canlyniadau ar y dydd Gwener hefyd.

System yr etholiad

Diweddarwch eich dewisiadau cwci i weld y cynnwys hwn

Mae’r etholiad yn defnyddio system bleidleisio gyfrannol.

Mae systemau cyfrannol wedi’u dylunio i sicrhau bod nifer y seddi mae plaid wleidyddol yn eu hennill yn adlewyrchu cyfran y pleidleisiau y mae’r blaid yn ei chael.

Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill 50% o’r bleidlais mewn etholaeth, byddant yn ennill 3 allan o’r 6 sedd.

System rhestr gyfrannol gaeedig

Mae llawer o systemau pleidleisio cyfrannol yn bodoli. Mae etholiad y Senedd yn defnyddio system rhestr gyfrannol gaeedig.

Ystyr rhestr gaeedig yw y bydd y pleidiau gwleidyddol yn dewis trefn yr ymgeiswyr (y bobl sydd yn sefyll ar gyfer yr etholiad) ar restr y blaid.

Er enghraifft, os bydd plaid wleidyddol yn ennill 3 sedd mewn etholaeth, y 3 person ar frig y rhestr fydd yn cael eu hethol.

Diweddarwch eich dewisiadau cwci i weld y cynnwys hwn

Y fformiwla

Mae'r system bleidleisio yn sicrhau bod nifer y seddi mae plaid yn eu hennill yn cyfateb i'r gyfran o'r bleidlais maent yn ei dderbyn trwy ddefnyddio fformiwla fathemategol.

Enw’r fformiwla yma yw dull D’Hondt, ac mae'n cael ei defnyddio gan nifer o wledydd ledled y byd.

Mae’r Senedd wedi ysgrifennu arweiniad defnyddiol i'r dull.