Sut i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
Gorsafoedd pleidleisio yw lle rydych chi'n pleidleisio yn bersonol.
Hawdd ei Ddarllen
Hawdd ei Ddarllen - Sut i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.
Paratoi i bleidleisio
Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch chi'n derbyn cerdyn pleidleisio drwy’r post.
Bydd y cerdyn pleidleisio yn egluro ble mae eich gorsaf bleidleisio (ble gallwch bleidleisio mewn person) ac ar ba ddiwrnod bydd yr etholiad yn cael ei gynnal.
Dim ond yn yr orsaf bleidleisio sydd wedi ei nodi ar y cerdyn y byddwch chi'n gallu pleidleisio.
Gallwch hefyd ddod o hyd i'ch gorsaf bleidleisio trwy ddefnyddio'r chwiliwr gorsaf bleidleisio.
Does dim angen mynd â’ch cerdyn pleidleisio gyda chi er mwyn pleidleisio.
Nid oes angen i chi ddarparu cerdyn adnabod llun wrth bleidleisio yn etholiad y Senedd.
Yn yr orsaf bleidleisio
Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod yr etholiad, sef 7 Mai 2026.
Pan rydych yn cyrraedd, bydd staff yn gofyn am eich enw a'ch cyfeiriad. Bydd hyn yn cadarnhau eich bod ar y gofrestr etholiadol (eich bod wedi cofrestru i bleidleisio). Byddent yn rhoi papur pleidleisio i chi. Bydd y papur pleidleisio yn nodi’r pleidiau a'r ymgeiswyr annibynnol y gallwch bleidleisio drostynt yn eich etholaeth.
Bydd gan bob gorsaf bleidleisio fwth lle gallwch bleidleisio'n breifat. Bydd cyfarwyddiadau yn y bwth ac ar ben y papur pleidleisio ar sut i bleidleisio.
Bydd gan y bwth pleidleisio pensil neu feiro y gallwch ei ddefnyddio i bleidleisio.
Byddwch yn pleidleisio unwaith dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol o’ch dewis. Gallwch wneud hyn drwy nodi (X) drws nesaf i’r blaid neu’r ymgeisydd annibynnol yr ydych yn dymuno pleidleisio drostynt.
Unwaith yr ydych wedi pleidleisio, plygwch y papur yn ei hanner a’i roi yn y blwch pleidleisio.
Hygyrchedd
Mae gwybodaeth am hygyrchedd pob gorsaf bleidleisio yng Nghymru ar gael trwy ein chwiliwr gorsaf bleidleisio
Gallwch ymweld â gwefan eich cyngor lleol i ddarganfod pa offer sydd ar gael i'ch helpu i bleidleisio hefyd.
Gallwch hefyd ofyn wrth staff yn eich gorsaf bleidleisio am help gyda phleidleisio.