Sut i bleidleisio drwy'r post
Gallwch bleidleisio trwy'r post yn etholiad y Senedd yn lle pleidleisio'n bersonol.
Hawdd ei Ddarllen
Hawdd ei Ddarllen - Sut i bleidleisio drwy'r post
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.
Gwna'n siwr dy fod wedi cofrestru
Gallwch bleidleisio drwy’r post yn etholiad y Senedd yn lle pleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio (lle rydych yn pleidleisio).
Gall unrhyw un bleidleisio drwy’r post, ond bydd angen i chi wneud cais am bleidlais bost erbyn 5pm dydd Mawrth 21 Ebrill er mwyn pleidleisio drwy’r post yn etholiad y Senedd.
Os ydych wedi gwneud cais ar-lein, mae’n bosib mai dim ond pleidlais bost ar gyfer etholiadau cyffredinol y DU sydd ganddo chi. Cysylltwch â’ch cyngor i wirio.
Gwneud cais am bleidlais bost
I wneud cais am bleidlais bost, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio.
Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post ar gyfer un etholiad yn unig, neu ar gyfer pob etholiad Senedd a chyngor.
I bleidleisio drwy’r post, llenwch y ffurflen hon a’i hanfon at eich adran gwasanaethau etholiadol leol (y bobl sy’n rhedeg etholiadau yn eich ardal).
Os ydych chi eisiau pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholiad y Senedd, sicrhewch eich bod wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post cyn y terfyn amser, 5pm ar 21 Ebrill 2026.
Bydd angen i chi wneud cais eto os ydych chi wedi symud tŷ neu newid eich enw.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am bleidlais bost, bydd angen i chi roi:
eich enw llawn
y cyfeiriad lle rydych chi wedi cofrestru i bleidleisio
os ydych chi eisiau pleidleisio drwy’r post ar gyfer un etholiad, rhai etholiadau, neu bob etholiad
y cyfeiriad rydych chi eisiau i’r bleidlais bost gael ei hanfon iddo. Os yw hyn yn wahanol i’ch cyfeiriad, bydd angen i chi ddweud pam rydych chi eisiau i’r bleidlais bost gael ei hanfon i gyfeiriad gwahanol
eich llofnod
eich dyddiad geni
Ar ôl i chi wneud cais i bleidleisio drwy’r post, bydd eich adran gwasanaethau etholiadol lleol (y bobl sy’n rhedeg etholiadau yn eich ardal) yn gwirio eich cais. Byddan nhw’n dweud wrthych chi os gallwch chi bleidleisio drwy’r post neu os oes unrhyw broblemau gyda’ch cais.
Sut i bleidleisio drwy’r post
Byddwch yn cael pecyn pleidleisio drwy’r post yn y post cyn diwrnod yr etholiad.
Bydd y pecyn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i bleidleisio drwy’r post.
Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys:
Y papur pleidleisio
Datganiad pleidleisio drwy’r post
2 amlen (amlen A ac amlen B)
Byddwch chi’n pleidleisio unwaith dros blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol. Mae hyn yr un fath â phe baech chi’n pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio.
Rhowch y papur pleidleisio yn yr amlen leiaf. Mae gan yr amlen hon lythyren A fawr arni.
Llenwch eich manylion a llofnodwch y datganiad pleidleisio drwy’r post. Rhowch y datganiad yn yr amlen fwyaf. Mae gan yr amlen hon lythyren fawr B arni.
Rhowch yr amlen leiaf (gyda’ch pleidlais ynddi) yn yr amlen fwyaf hefyd.
Gallwch anfon eich pleidlais bost drwy ei rhoi mewn blwch post. Nid oes angen stamp.
Os na allwch wneud hyn eich hun, gallwch ofyn i rywun rydych chi'n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo i wneud hyn i chi.
Pryd mae’n rhaid i mi anfon fy mhleidlais bost?
Bydd angen i chi anfon eich pleidlais yn ddigon cynnar i sicrhau ei bod yn cyrraedd eich tîm gwasanaethau etholiadol lleol (y bobl sy’n rhedeg etholiadau yn eich ardal) erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad.
Os na allwch anfon eich pleidlais bost yn gynnar, neu os ydych chi eisiau mwy o amser i benderfynu pwy i bleidleisio drostynt, gallwch chi dal bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
Gallwch fynd â’ch pleidlais bost i’ch gorsaf bleidleisio (man pleidleisio) rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod yr etholiad. Gallwch hefyd fynd â’ch pleidlais bost i swyddfeydd eich cyngor lleol.
A yw pleidleisio drwy’r post yn ddiogel?
Mae pleidleisio drwy’r post yn ddiogel. Anfonwch eich pleidlais bost yn ôl cyn gynted ag y gallwch i sicrhau ei bod yn cael ei chyfrif, neu ewch â hi i’ch gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad.
Bydd staff yn adran gwasanaethau etholiadol eich cyngor (y bobl sy’n rhedeg etholiadau yn eich ardal) yn gwirio eich datganiad pleidleisio drwy’r post i sicrhau mai chi sydd wedi llenwi’ch pleidlais.
Mae’ch pleidlais yn dal i fod yn breifat oherwydd byddwch chi’n rhoi’ch papur pleidleisio mewn amlen wahanol i’ch datganiad, felly ni all neb weld pwy rydych chi’n pleidleisio drosto.
A allaf newid fy meddwl?
Os penderfynwch nad ydych chi eisiau pleidleisio drwy’r post, gallwch ganslo’ch pleidlais bost.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyngor os ydych chi eisiau canslo’ch pleidlais bost cyn 5pm ar 21 Ebrill 2026.
Defnyddiwch ein chwiliwr côd post i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor lleol.
Ni allwch ganslo’ch pleidlais bost os ydych eisoes wedi ei anfon yn ôl.
Beth os nad yw fy mhleidlais bost yn cyrraedd?
Dylai pob pleidlais bost gyrraedd erbyn 30 Ebrill 2026.
Os nad yw’ch pleidlais bost wedi cyrraedd, dylech gysylltu ag adran gwasanaethau etholiadol eich cyngor (y bobl sy’n rhedeg etholiadau yn eich ardal).
Defnyddiwch ein chwiliwr côd post i ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor lleol.
Beth os wyf yn gwneud camgymeriad?
Bydd cyfarwyddiadau ar eich pecyn pleidleisio drwy’r post. Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad ar ôl i chi bleidleisio, siaradwch ag adran gwasanaethau etholiadol leol.
Gyda phwy alla i siarad os oes gen i gwestiynau?
Siaradwch â’ch cyngor os oes gennych gwestiynau am bleidleisio drwy’r post.
Gallwch hefyd ddarganfod mwy ar wefan y Comisiwn Etholiadol.