Sut i bleidleisio drwy ddirprwy
Pleidleisio drwy ddirprwy yw gofyn i rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan (drosoch chi) yn eich gorsaf bleidleisio.
Hawdd ei Ddarllen
Hawdd ei Ddarllen - Sut i bleidleisio drwy ddirprwy
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.
Gwybodaeth allweddol
Gallwch ofyn i rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan. Gwnewch gais am bleidlais drwy ddirprwy cyn 5pm ar ddydd Mawrth 28 Ebrill.
Cyflwyniad
Pleidleisio drwy ddirprwy yw gofyn i rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan (drosoch chi) yn eich gorsaf bleidleisio.
Efallai y byddwch chi’n dewis pleidleisio drwy ddirprwy os na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Gall hyn fod oherwydd eich bod chi’n gwybod y byddwch yn brysur, neu os ydych i ffwrdd o’ch cartref.
Gall unrhyw un bleidleisio drwy ddirprwy, ond bydd angen i chi wneud cais cyn 5pm ar ddydd Mawrth 28 Ebrill i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiad y Senedd.
Dylai’r person rydych chi’n ei ddewis i bleidleisio ar eich rhan fod yn rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt, fel ffrind neu aelod o’r teulu.
Dylech ddweud wrthyn nhw pa blaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol rydych chi eisiau pleidleisio drostynt.
Sut i bleidleisio drwy ddirprwy
Pan fyddwch yn gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, byddwch chi’n rhoi enw’r person fydd yn pleidleisio ar eich rhan. Y person yma fydd eich dirprwy.
Byddwch chi’n cael cerdyn pleidleisio sy’n nodi ble mae eich gorsaf bleidleisio hyd yn oed os ydych wedi penodi dirprwy. Bydd eich dirprwy hefyd yn derbyn cerdyn pleidleisio dirprwy fydd yn dweud wrthynt ble i fynd i bleidleisio ar eich rhan. Efallai bod eich gorsaf bleidleisio chi yn wahanol i’w gorsaf bleidleisio nhw, felly dylent wirio’r lleoliad cyn diwrnod yr etholiad. Gallwch ddod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio drwy ein chwiliwr côd post.
Bydd eich dirprwy yn pleidleisio ar eich rhan drwy fynd i’ch gorsaf bleidleisio. Os na allant fynychu eich gorsaf bleidleisio, gallant wneud cais am bleidlais bost drwy ddirprwy.
Yn yr orsaf bleidleisio
Pan fydd y person sy’n pleidleisio ar eich rhan yn yr orsaf bleidleisio, bydd angen iddynt roi eich enw chi, a’u henw nhw i’r staff.
Yna byddant yn pleidleisio ar eich rhan yn y ffordd arferol. Bydd cyfarwyddiadau am bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio, a gall staff yn yr orsaf bleidleisio helpu.
Dylech siarad â’r person sy’n pleidleisio ar eich rhan am eich dewis cyn iddynt bleidleisio. Byddant yn pleidleisio dros y blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol rydych chi’n ei ddewis.
A yw pleidleisio drwy ddirprwy yn ddiogel?
Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn ddiogel. Byddwch chi’n dewis rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan, a byddwch chi’n dweud wrthyn nhw pwy rydych chi eisiau pleidleisio drosto.
A allaf newid fy meddwl?
Os ydych chi wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, ond rydych chi nawr eisiau pleidleisio eich hun, gallwch fynd i’ch gorsaf bleidleisio i fwrw pleidlais, ond dim ond os nad yw eich dirprwy eisoes wedi pleidleisio ar eich rhan.
Beth os ydw i eisiau i rywun arall bleidleisio drosta i?
Os ydych chi’n newid eich meddwl am bwy ddylai bleidleisio ar eich rhan, neu os na all y person rydych chi wedi’i ddewis fynd i bleidleisio, dylech siarad ag adran gwasanaethau etholiadol leol (y bobl sy’n rhedeg etholiadau yn eich ardal)
A allaf fod yn ddirprwy i rywun?
Gall y rhan fwyaf o bobl bleidleisio dros rywun arall fel dirprwy. I fod yn ddirprwy rhywun, mae’n rhaid i chi fod:
Yn 16 oed neu’n hŷn
Wedi cofrestru i bleidleisio
Yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
Gyda chaniatâd i bleidleisio yn yr etholiad
Ar gyfer etholiadau’r Senedd, gallwch fod yn ddirprwy i’ch perthnasau agos, ac i hyd at 2 berson arall.
Gyda phwy alla i siarad os oes gen i gwestiynau?
Siaradwch â’ch cyngor os oes gennych gwestiynau am bleidleisio drwy ddirprwy.
Dirprwy Mewn Argyfwng
Gallwch wneud cais am bleidlais argyfwng drwy ddirprwy hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Rhaid i chi gael rheswm dilys dros wneud hyn.
Gallwch ond gwneud cais am bleidlais argyfwng drwy ddirprwy os:
Oes gennych argyfwng meddygol
Oes gennych anabledd
Rydych chi i ffwrdd yn gweithio
Pleidlais bost drwy ddirprwy
Gall y person sy’n pleidleisio ar eich rhan wneud cais am bleidlais bost.
Bydd angen iddyn nhw lenwi cais ar gyfer pleidlais bost cyn y dyddiad cau am 5pm ar 21 Ebrill.