Mae taflenni etholiad a gyhoeddir gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol fel y'u cyflwynir gan y blaid neu'r ymgeisydd. Mae'r Bwrdd Rheoli Etholiadol yn cyhoeddi unrhyw daflen a gyflwynir yn unol â'r canllawiau. Nid yw'n mynegi barn ar gynnwys y taflenni. Mae pleidiau ac ymgeiswyr annibynnol yn gyfrifol am sicrhau nad yw eu taflen yn cynnwys deunydd sy'n anllad, yn dramgwyddus neu’n anweddus, neu y byddai ei gyhoeddi'n debygol o chyflawni trosedd. Dylid darllen taflenni etholiad a gyhoeddir ar bwrwpleidlais.cymru fel deunydd ymgyrch wleidyddol ac felly gallant gynnwys safbwyntiau nad ydynt yn cyd-fynd â'ch safbwyntiau eich hun.

Gall pleidiau ac ymgeiswyr gyflwyno testun eu taflen yn ogystal â'r PDF i gynorthwyo hygyrchedd. Bydd y dudalen we hon yn dangos testun y daflen, naill ai yn gyfan gwbl neu'n ddarn ohono, os yw wedi'i darparu gan y blaid neu'r ymgeisydd annibynnol. Nid yw'r Bwrdd Rheoli Etholiadol wedi diwygio'r testun a ddarparwyd. Os nad yw'r argraffnod etholiadol (gwybodaeth am bwy sy'n gyfrifol am y deunydd a phwy y mae'n ei hyrwyddo) ar y dudalen we, gellir dod o hyd iddo ar y daflen.