Hawdd ei Ddarllen - Pwy gall pleidleisio?

PDF Cymraeg 93.4 KB

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.

Cofiwch gofrestru i bleidleisio erbyn dydd Llun 20 Ebrill 2026. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein.

Diweddarwch eich dewisiadau cwci i weld y cynnwys hwn

I bleidleisio yn yr etholiad ar 7 Mai 2026, mae’n rhaid i chi fod:

  • Wedi cofrestru i bleidleisio

  • Yn 16 oed neu’n hŷn

  • Yn byw yng Nghymru (mae rhai pobl sy’n byw tu allan i Gymru yn cael pleidleisio. Mae mwy o wybodaeth am hyn isod.)

  • Heb gael eich eithrio’n gyfreithiol rhag pleidleisio

Os nad ydych yn siŵr os gallwch chi bleidleisio, darllenwch y cwestiynau a'r atebion isod.

Diweddarwch eich dewisiadau cwci i weld y cynnwys hwn

Pwy all gofrestru i bleidleisio?

I gofrestru i bleidleisio, mae’n rhaid i chi fod yn:

  • Ddinesydd Prydeinig, neu

  • Dinesydd Gwyddelig, neu

  • Dinesydd gwlad yn yr Undeb Ewropeaidd, neu

  • Dinesydd gwlad arall gyda chaniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, neu nad oes angen caniatâd arnoch

I bleidleisio yn etholiad y Senedd, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru cyn hanner nos ar 20 Ebrill 2026.

Oes rhaid i mi gofrestru i bleidleisio?

Does dim ond angen i chi gofrestru i bleidleisio os ydych chi:

  • Erioed wedi cofrestru i bleidleisio o’r blaen

  • Wedi symud tŷ

  • Wedi newid eich enw

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, does dim angen i chi gofrestru eto oni bai fod eich manylion wedi newid. Gallwch gysylltu gyda thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol i gael gwybod os ydych wedi cofrestru yn barod.

Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, byddwch chi’n cael cerdyn pleidleisio yn y post tua 5 wythnos cyn diwrnod yr etholiad.

Graffeg cartŵn o fenyw yn dal gliniadur ac yn dangos gwefan bwrwpleidlais.cymru ar y sgrin

Sut mae cofrestru i bleidleisio?

Gallwch gofrestru ar-lein ar wefan Llywodraeth y DU.

Bydd angen i chi roi eich enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad, cenedligrwydd, a rhif Yswiriant Gwladol (os nad oes gennych un, gallwch dal gofrestru).

Gallwch gofrestru o oedran 14 ymlaen.

Gallwch ond pleidleisio pan fyddwch chi’n 16 oed neu’n hŷn.

Rwy’n aelod o’r lluoedd arfog, ac rwy’n byw dramor. Alla i bleidleisio?

Gallwch, a bydd angen i chi gofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog.

Mae hyn yn golygu y byddwch wedi’ch cofrestru mewn cyfeiriad yn y DU am hyd at y 5 mlynedd nesaf hyd yn oed os ydych chi’n symud o gwmpas.

Gallwch gofrestru ar-lein. Bydd angen i chi roi eich rheng/gradd, rhif gwasanaeth a’ch corfflu neu gatrawd.

Bydd angen i chi ddewis os ydych chi eisiau pleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy.

Bydd angen i chi gael eich ffurflen wedi’i llofnodi, yna ei rhoi i’ch swyddfa cofrestru etholiadol. (council contact details)

Gallwch gofrestru yn yr un ffordd os ydych chi’n briod neu’n bartner sifil i aelod o’r lluoedd arfog.

Gallwch hefyd gofrestru yn yr un ffordd os ydych chi yn was y Goron neu gyflogai y British Council, neu’n briod neu’n bartner sifil i un ohonynt.

Nid oes gennyf gyfeiriad sefydlog. Alla i bleidleisio?

Gallwch bleidleisio os nad oes gennych gyfeiriad sefydlog.

Pan fyddwch y cofrestru i bleidleisio, gallwch ddefnyddio un o’r cyfeiriadau isod:

  • lle rydych chi’n treulio’r rhan fwyaf o’ch amser

  • rywle y mae gennych gysylltiad iddo

  • y lle parhaol diwethaf i chi ei ddefnyddio i gofrestru i bleidleisio

I gofrestru i bleidleisio heb gyfeiriad sefydlog, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol (council contact details)

Rwy’n fyfyriwr ac mae gennyf 2 gyfeiriad. Beth ddylwn i ei wneud?

Gallwch gofrestru i bleidleisio yn y ddau gyfeiriad ond gallwch ond pleidleisio unwaith.

Bydd angen i chi ddewis pa gyfeiriad i bleidleisio ynddo ar gyfer etholiad y Senedd.

Gallwch ond bleidleisio mewn un lleoliad yn etholiad y Senedd.

Nid yw’n ddiogel i’m enw fod ar y gofrestr etholiadol. Beth ddylwn i ei wneud?

Gallwch wneud cais am gofrestru pleidleisiwr dienw.

Mae cofrestru fel pleidleisiwr dienw yn caniatáu i bobl gofrestru heb i’w henw neu gyfeiriad ymddangos ar y gofrestr etholiadol.

Bydd angen i chi egluro pam nad yw’n ddiogel i’ch enw neu gyfeiriad ymddangos ar y gofrestr, a bydd angen i chi roi dogfen llys neu dystysgrif gan berson awdurdodedig.

Nid yw pleidleiswyr dienw yn cael eu cynnwys ar unrhyw ffurflenni cofrestru sy’n cael eu hanfon i’ch cyfeiriad.

Bydd eich swyddfa cofrestru etholiadol yn siarad â chi ar wahân.

Mae cofrestru dienw yn ddilys am flwyddyn yn unig, a bydd angen i chi wneud cais eto ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.

Llenwch y ffurflen hon a rhowch dystiolaeth i gefnogi’ch cais ac yna ei rhoi i’ch swyddfa cofrestru etholiadol.

Rwy’n dod o Gymru ond rwyf wedi symud i ffwrdd. Alla i bleidleisio?

Os ydych chi’n byw dramor, gallwch gofrestru i bleidleisio fel pleidleisiwr tramor.

Gall pleidleiswyr tramor bleidleisio mewn etholiadau seneddol y DU.

Ni allwch bleidleisio mewn etholiadau’r Senedd na chyngor yng Nghymru.

Diweddarwch eich dewisiadau cwci i weld y cynnwys hwn