Hawdd ei Ddarllen

Hawdd ei Ddarllen - Pleidleisio hygyrch

PDF Cymraeg 79.7 KB

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.

Cyflwyniad

Gall pobl sy’n gweithio mewn gorsafoedd pleidleisio (lle gallwch bleidleisio yn bersonol) eich helpu i bleidleisio. Gallwch hefyd gael help gan dimau gwasanaethau etholiadol (y bobl sy’n trefnu etholiadau yn eich ardal) drwy siarad â nhw cyn yr etholiad.

Cymorth yn eich gorsaf bleidleisio

Person yn cerdded mewn i gorsaf pleidleisio
© Comisiwn Etholiadol

Gall staff ym mhob gorsaf bleidleisio eich helpu i bleidleisio.

Beth sydd ar gael:

  • Lle i eistedd os oes ei angen arnoch

  • Cymorth gan staff yn yr orsaf bleidleisio

  • Gallwch ddod â ffrind neu aelod o’r teulu i’ch helpu

  • Gallwch ddefnyddio eich ffôn fel chwyddwydr

  • Gallwch ddefnyddio ap testun-i-leferydd yn y bwth pleidleisio

Cael help i bleidleisio

Os oes angen help arnoch i bleidleisio, gallwch ofyn i aelod o staff neu ddod â rhywun rydych yn ymddiried ynddynt gyda chi. Gallwch hefyd siarad â'ch cyngor lleol cyn yr etholiad i ofyn am gymorth.

Mae eich pleidlais yn breifat

Mae gennych hawl i bleidleisio’n breifat. Ni ddylai neb weld pwy rydych yn pleidleisio drostynt na defnyddio eich papur pleidleisio oni bai eich bod yn gofyn iddyn nhw.

Gallwch ofyn i aelod o staff yn eich gorsaf bleidleisio am gymorth.

Gallwch hefyd ofyn i’ch cyngor am gymorth gyda phleidleisio cyn diwrnod yr etholiad.

Fformatau hygyrch a chyfarpar

Papurau pleidleisio print bras

Bydd fersiwn print bras o’r papur pleidleisio ar gael ymhob gorsaf bleidleisio.

Bydd un ar y wal a gallwch hefyd ofyn am un gan staff yn yr orsaf bleidleisio.

Gall hyn ei gwneud hi’n haws i chi weld beth mae’n ddweud ar y papur pleidleisio a’ch helpu i wneud yn siŵr eich bod yn pleidleisio am y blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol yr ydych yn ei ddymuno.

Ni allwch bleidleisio ar y papur pleidleisio print bras. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r papur pleidleisio arferol.

Gallwch ofyn i staff yn yr orsaf bleidleisio am bapur pleidleisio print bras.

Cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio

Bydd gan bob gorsaf bleidleisio gyfarwyddiadau i’ch helpu i ddeall sut i bleidleisio. Gallwch hefyd ofyn i staff yn yr orsaf bleidleisio egluro i chi.

Dyfais pleidleisio cyffyrddol

Mae dyfais pleidleisio cyffyrddol yn ddalen blastig sy’n ffitio dros y papur pleidleisio. Mae ganddi rifau wedi codi a braille y gallwch eu teimlo, ac mae’n gallu eich helpu i bleidleisio’n breifat os ydych yn ddall neu’n rhannol ddall. Dylai fod gan bob gorsaf bleidleisio ddyfeisiau pleidleisio cyffyrddol.

Gallwch ofyn i staff yn yr orsaf bleidleisio am ddyfais pleidleisio cyffyrddol ac am gymorth i’w defnyddio.

Lle i eistedd

Dylai fod gan bob gorsaf bleidleisio rywle i chi eistedd os ydych ei angen.

Chwyddwydr

Dylai fod gan bob gorsaf bleidleisio chwyddwydr i chi ei ddefnyddio. Gallwch ofyn i staff yn yr orsaf bleidleisio am chwyddwydr i’ch helpu i ddarllen y papur pleidleisio.

Bwths pleidleisio ar lefel cadair olwyn

Dylai fod gan bob gorsaf bleidleisio o leiaf un bwth pleidleisio ar lefel cadair olwyn. Gallwch wirio os oes un yn eich gorsaf bleidleisio drwy ofyn i’ch cyngor.

Gripiau pensil

Dylai fod gan bob gorsaf bleidleisio gripiau pensil er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi ddefnyddio’r papur pleidleisio. Gallwch ofyn i staff yn yr orsaf bleidleisio am grip pensil os ydych ei angen.

Dolen glywedol

Mae gan rai gorsafoedd pleidleisio systemau dolen glywedol. Gallwch wirio os oes un yn eich gorsaf bleidleisio drwy wirio gwybodaeth hygyrchedd eich gorsaf bleidleisio neu ofyn i’ch cyngor.

Papurau pleidleisio sain

Mae gan rai gorsafoedd pleidleisio fersiynau sain o’r papur pleidleisio. Gallwch wirio os yw eich gorsaf bleidleisio yn cynnig un drwy ofyn i’ch cyngor.

Cynllunio ymlaen llaw ar gyfer diwrnod yr etholiad

Gwirio hygyrchedd eich gorsaf bleidleisio

Defnyddiwch ein chwiliwr gorsafoedd pleidleisio i wirio cyfeiriad eich gorsaf pleidleisio a beth sydd ar gael yna, gan gynnwys:

  • Mynediad cadair olwyn

  • Ramp

  • Toiledau hygyrch

  • Parcio

  • Dolen glywedol

  • Mynediad heb risiau

Siarad â’ch cyngor cyn yr etholiad

Gallwch siarad â’ch gwasanaethau etholiadol lleol (y bobl sy’n rhedeg yr etholiad) cyn diwrnod yr etholiad. Gallant:

  • Sicrhau bod gennych gyfarpar i’ch helpu i bleidleisio

  • Ateb cwestiynau am eich gorsaf bleidleisio

  • Eich helpu i gynllunio eich ymweliad â’r orsaf bleidleisio

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt gwasanaethau etholiadol eich cyngor ar y wefan yma.

Eich hawliau wrth bleidleisio

Hawl i bleidleisio’n annibynnol

Mae gennych hawl i bleidleisio’n annibynnol ac yn breifat, gyda chymorth os oes ei angen arnoch.

Hawl i gymorth

Gallwch ofyn i staff yn yr orsaf bleidleisio am gymorth. Mae staff wedi’u hyfforddi i’ch helpu ac i barchu eich pleidlais.

Hawl i ddod â rhywun gyda chi

Gallwch ddod â rhywun i’ch helpu i bleidleisio. Gall hyn fod yn ffrind, aelod o’r teulu, neu ofalwr. Mae rheolau ynghylch pwy all eich helpu:

Rhaid iddynt fod dros 16 oed

Ni allant fod yn ymgeisydd nac yn asiant etholiadol

Gallant helpu un pleidleisiwr yn unig (ac eithrio gofalwyr sy’n helpu sawl person maent yn gofalu amdanynt)

Hawl i breifatrwydd

Mae eich pleidlais yn breifat. Ni ddylai neb:

  • Edrych arnoch wrth i chi bleidleisio

  • Dweud wrthych pwy i bleidleisio drosto

  • Ysgrifennu ar eich papur pleidleisio os nad ydych yn gofyn iddynt

Os bydd rhywun yn ceisio dweud wrthych pwy i bleidleisio drostyn, gallwch ddweud wrth staff yn yr orsaf bleidleisio.

Beth i’w wneud os oes gennych broblemau

Os oes gennych broblemau wrth geisio pleidleisio, neu os ydych yn wynebu gwahaniaethu wrth geisio pleidleisio:

  • Siaradwch â staff yr orsaf bleidleisio

  • Cysylltwch â’ch gwasanaethau etholiadol lleol

  • Adroddwch i’r Comisiwn Etholiadol

Gallwch hefyd gysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am gyngor.

Pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy

Ffurflen gais am pleidlais post
© Comisiwn Etholiadol

Gallwch bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio, neu gallwch bleidleisio drwy’r post, neu ofyn i rywun arall bleidleisio ar eich rhan (mae hyn yn cael ei alw yn pleidleisio drwy ddirprwy).

Pleidleisio drwy’r post

Gall unrhyw un ofyn i bleidleisio drwy’r post.

Rhaid i chi ofyn am bleidlais drwy’r post erbyn 5pm ar 21 Ebrill 2026 i bleidleisio drwy’r post yn etholiad y Senedd. Bydd eich papur pleidleisio yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad.

Mae gan y wefan yma dudalen am bleidleisio drwy'r post.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Gall unrhyw un ofyn i rywun y maent yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eu rhan. Mae hyn yn cael ei alw yn pleidleisio drwy ddirprwy.

Rhaid i chi ofyn am bleidlais drwy ddirprwy erbyn 5pm ar 28 Ebrill 2026 i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiad y Senedd.

Mae gwybodaeth am bleidleisio drwy ddirprwy ar y wefan yma.

Dirprwy mewn argyfwng

Gallwch ofyn am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad. Mae dirprwy mewn argyfwng yn golygu gofyn i rywun arall bleidleisio ar eich rhan ar ôl i’r dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy basio.

Dim ond os oes gennych reswm da y gallwch gael pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng, fel bod yn yr ysbyty, neu ddim yn ddigon iach i fynd i’r orsaf bleidleisio. Mae’n rhaid i’r rheswm yma ddigwydd ar ôl y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy arferol.

Mae gan y Comisiwn Etholiadol restr o resymau pam y gallwch ofyn am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.

Cysylltwch â’ch gwasanaethau etholiadol lleol i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.

Cael mwy o gymorth

Comisiwn Etholiadol

Comisiwn annibynnol yw’r Comisiwn Etholiadol sy’n goruchwylio etholiadau yn y DU.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn cynghori ar bleidleisio hygyrch a’ch hawliau. Gallwch weld eu cyngor ar eu gwefan.

Eich cyngor lleol

Mae etholiadau’n cael eu rhedeg yn lleol gan adrannau gwasanaethau etholiadol. Mae’r rhain yn rhan o’ch cyngor lleol.

Cysylltwch â’ch gwasanaethau etholiadol lleol am gymorth gyda:

  • Cofrestru i bleidleisio

  • Gwneud cais am bleidlais drwy’r post neu drwy ddirprwy

  • Cwestiynau am eich gorsaf bleidleisio

  • Cymorth gyda hygyrchedd

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor ar y wefan yma.

Sefydliadau anabledd

Mae rhai sefydliadau’n rhoi cymorth ar hawliau pleidleisio a hygyrchedd: