Welsh Labour / Llafur Cymru
Mae taflenni etholiad a gyhoeddir gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol fel y'u cyflwynir gan y blaid neu'r ymgeisydd. Darllena mwy ar y broses yma.
Taflen etholiadol
Mae bywyd yng Nghymru yn dal i fod yn anoddach nag y dylai fod i lawer o deuluoedd. Mae llawer o bobl yn teimlo nad yw cynnydd wedi’u cyrraedd nhw eto. Mae’r rhwystredigaeth honno’n wirioneddol, a ‘dwi ddim am guddio rhag hynny. Gyda’n gilydd, trwy gyfnodau anodd, fe wnaethon ni geisio gwneud y peth iawn bob tro. Fe wnaethon ni amddiffyn y pethau y mae pobl yn dibynnu arnynt fwyaf. Fel presgripsiynau am ddim, parcio am ddim mewn ysbytai, a phrydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn ysgolion cynradd. Ond cawson ni ein dal yn ôl rhag mynd ymhellach ac yn gyflymach gan gyllidebau llym y Torïaid a gosbodd Cymru a bu bron â chwalu ein heconomi. Diolch byth, mae’r amser hwnnw bellach wedi dod i ben. Nawr, gallwn edrych tua’r dyfodol â hyder. Nid dim ond brwydro, ond adeiladu. Pennod newydd i Gymru. Gyda mwy o arian ar gael, rydyn ni eisoes yn lleihau rhestrau aros y GIG. Rwy’n gwybod bod cynnydd yn teimlo’n araf ac mae’n ddrwg gen i am hynny. ‘Dwi ddim am i unrhyw un aros yn hirach nag y dylent. Ond mae pethau’n gwella. Ac, erbyn hyn, mae gennym ni’r cynllun a’r cyllid i fynd ymhellach ac yn gyflymach. Felly, dyma fy addewid newydd i chi. Os oes gennych chi bryder brys am eich iechyd, byddwch yn gweld aelod o’r tîm gofal sylfaenol cyn pen 48 awr. Mae Llafur Cymru eisiau symud ymlaen a gwneud bywyd yn well i chi. Mae’r etholiad hwn am ddewis beth sy’n digwydd nesaf. Ni allwn ni fforddio cymryd risgiau gyda’n GIG, ein swyddi, na dyfodol ein plant. Os ydych chi’n cytuno, rwy’n gofyn am eich cefnogaeth. Pleidleisiwch dros Lafur Cymru ddydd Iau 7 Mai. Pleidleisiwch dros degwch chi’n gallu teimlo. Yr eiddoch yn gywir, Eluned
Welsh Labour / Llafur Cymru - Pontypridd Cynon Merthyr Taflen etholiadol
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.
Ymgeisydd 1
Vikki Howells
Ardal berthnasol
Pontypridd Cynon Merthyr
Gwybodaeth am ddatganiad o aelodaeth y blaid
Co-operative Party, 25/03/2025-25/03/2026
Ymgeisydd 2
Lloyd Watkins
Ardal berthnasol
Pontypridd Cynon Merthyr
Gwybodaeth am ddatganiad o aelodaeth y blaid
Co-operative Party, 25/03/2025-25/03/2026
Ymgeisydd 3
Chris Binding
Ardal berthnasol
Pontypridd Cynon Merthyr
Gwybodaeth am ddatganiad o aelodaeth y blaid
Co-operative Party, 25/03/2025-25/03/2026
Ymgeisydd 4
Mitch Theaker
Ardal berthnasol
Caerdydd Penarth
Gwybodaeth am ddatganiad o aelodaeth y blaid
Co-operative Party, 25/03/2025-25/03/2026
Ymgeisydd 5
Mustapha Maohoub
Ardal berthnasol
Pontypridd Cynon Merthyr
Gwybodaeth am ddatganiad o aelodaeth y blaid
Co-operative Party, 25/03/2025-25/03/2026
Ymgeisydd 6
Anna Nadine Williams-Price
Ardal berthnasol
Pontypridd Cynon Merthyr
Ymgeisydd 7
Jane Gebbie
Ardal berthnasol
Pen-y-bont Bro Morgannwg
Gwybodaeth am ddatganiad o aelodaeth y blaid
Co-operative Party, 25/03/2025-25/03/2026