Dai Hedley Williams
Mae taflenni etholiad a gyhoeddir gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol fel y'u cyflwynir gan y blaid neu'r ymgeisydd. Darllena mwy ar y broses yma.
Taflen etholiadol
Fy Neges i Bob Pleidleisiwr a Chyd-ddinesydd Annwyl Bobol, Dyma fy neges bersonol i chi gyd. Fy rheswm dros sefyll yn yr etholiad hwn yw fy mhryder dwfn ynghylch ansawdd perfformiad y Senedd bresennol. Fy nod yw gwneud y Senedd yn fwy effeithiol ac yn well – YN WELL I CHI, I MI, I BAWB YN EIN CYMUNED. Felly, rwy'n eich annog i bleidleisio. Mae awr neu lai allan o'ch diwrnod yn fuddsoddiad bach i gael BYWYD GWELL AM Y PEDAIR BLYNEDD NESAF. A pha amser gwell nag eleni, pan fydd newidiadau mawr yn y ffordd o ethol Seneddwyr, yn rhoi siawns am wir newid yn y Senedd ei hun. Ac nid golygaf i chi foto dros blaid wahanol, plaid newydd hyd yn oed. Welwch chi, dyma'r peth - Y SYSTEM BLEIDIAU EI HUN YW'R BROBLEM! Y criw mewn grym yn meddwl na allant wneud dim byd o'i le: y criw arall yn gwrthwynebu. Felly ychydig o ddadl ddeallus ac aeddfed a welwn er gwaethaf y ffaith bod pobl ddiffuant a chlyfar ar y ddwy ochr. Os ydych chi am weld mwy o lywodraeth gydweithredol, yna RHAID I CHI BLEIDLEISIO DROSTO. Ni fydd beidio â phleidleisio yn safbwynt call. Felly, pleidleisiwch dros ANIBYNNYDD, fel fi, i gael ymgeisydd fydd – • yn gweithio'n gyfan gwbl er eich mwyn chi, a'ch buddiannau, a heb gael ei dynnu ei ben gan bwysau unrhyw blaid arall. • yn sicrhau bod aelodau'r Senedd yn cael eu hatgoffa'n gyson MAI EIN HARIAN NI YW'R HYN Y MAENT YN EI WARIO – nid eu rhai nhw. Felly, os ydych chi eisiau newid – DIM OND CHI ALL EI GYFLAWNI! A chofiwch bob amser yr hen ddywediad hwnnw OS BYDDWCH YN DAL I WNEUD YR HYN DYCH CHI YN EI WNEUD, BYDDWCH YN DAL I GAEL YR HYN DYCH CHI YN EI GAEL! Diolch i chi, Dai
Dai Hedley Williams - Pontypridd Cynon Merthyr Taflen etholiadol
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.