Mae taflenni etholiad a gyhoeddir gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol fel y'u cyflwynir gan y blaid neu'r ymgeisydd. Darllena mwy ar y broses yma.

Taflen etholiadol

CYMUNED CYN PLAID Mewn cyfnod pan fo pleidiau gwleidyddol yn fwyfwy rhanedig; pan fydd y Senedd nesaf yn cynnwys llawer o leisiau newydd a dibrofiad; ac mewn cyfnod pan fo pobl o bob oed angen cefnogaeth, sefydlogrwydd a gobaith — rwyf am weithio gyda chi, ac i chi, i barhau i roi Cymru yn gyntaf. Wedi gwasanaethu fel Aelod annibynnol o'r Senedd, rwyf wedi gweld yn glir y cyfle unigryw y mae'n ei gynnig i gyflawni cyfaddawd ystyrlon, llunio polisi, a sicrhau newidiadau cyfreithiol sy'n fuddiol i bawb. Fy mlaenoriaethau ar gyfer ein cymuned yw: Gwella Gofal Iechyd Lleol - Ehangu gwasanaethau meddygol ym Mharc Iechyd Llantrisant; Creu Canolfan Gofal Brys yn Ysbyty'r Barri; Cefnogi ailadeiladu Ysbyty Mynydd Bychan. Sicrhau Cyfiawnder i Breswylwyr - Cryfhau deddfwriaeth diogelwch adeiladau a lesddaliad; Negodi iawndal teg am anghyfiawnderau pensiwn; Cyflwyno deddfwriaeth ar ffrwydro chwareli. Creu Cymunedau Cynaliadwy - Diogelu llecynnau gwyrdd ac ardaloedd cadwraeth rhag datblygiadau yn y dyfodol; ⁠Ymestyn Metro De Cymru i Greigiau a Phentyrch; Gwella mynediad at addysg ddwyieithog. Pleidleiswch Rhys AB OWEN Annibynnol 07737 602264 / rhysabowen@hotmail.com Hyrwyddwyd gan Rhys ab Owen of 13 Anglesey Street, Canton, Caerdydd, CF5 1QZ

Rhys ab Owen - Caerdydd Penarth Taflen etholiadol

PDF English/Cymraeg 367.88 KB

Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.