Beth Winter
Mae taflenni etholiad a gyhoeddir gan y Bwrdd Rheoli Etholiadol fel y'u cyflwynir gan y blaid neu'r ymgeisydd. Darllena mwy ar y broses yma.
Taflen etholiadol
Beth Winter Yn etholiadau’r Senedd ar 7 Mai, bydd gennych UN bleidlais dros yr ymgeisydd rydych chi’n credo fydd yn eich cynrychioli orau. Rwy’n credu mai fi yw’r ymgeisydd hwnnw. Am lais Cryf o’r Cymoedd yn y Senedd, plis pleidleisiwch drosof fi. Rhaid i wleidyddiaeth newid. Mae ein cymoedd yn haeddu gwell. Llais Annibynnol y Gymuned dros ein Cymoedd Y mae’r dyfodol i ni i’w ennill Mae fy nghalon a’m henaid yn gorwedd yn y Cymoedd hyn. Dyma fy nghartref – cefais fy magu yma, rwy’n dal i fyw yma gyda fy nheulu. Mae gan ein Cymoedd draddodiad dosbarth gweithiol balch o waith caled, undod, a gorchestion megis y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol, undebau llafur a mentrau dan arweiniad gweithwyr fel Glofa’r Twr — prawf o’r ffaith pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, gallwn gymryd yr awenau a chadw cyfoeth yn ein cymunedau. Rwyf wedi credu erioed mewn gweithio gyda phobl, nid siarad drostynt. Dyna sut y gweithiais fel AS Cwm Cynon, gan aros yn driw i’m hegwyddorion sosialaidd: gwrthwynebu toriadau boed yn cael eu gweinyddu gan San Steffan, Bae Caerdydd neu’r cyngor lleol; dathlu popeth sy’n wych am ein Cymoedd ac adeiladu dyfodol amgen lle mae’r cyfoeth a grëir yma, yn aros yma. Dyma pam, pe bawn i’n cael fy ethol i’r Senedd, y byddwn i ond yn cymryd cyflog sy’n cyfateb i’m cyflogaeth undeb llafur flaenorol, gan gyfrannu’r gweddill i fentrau cymunedol. Fel Annibynnwr Cymunedol, ni fyswn i’n gaeth i unrhyw beiriant pleidiol na noddwyr corfforaethol chwaith. Byswn â’r rhyddid i ymladd dros Gymru sy’n rhoi pobl, heddwch a’r blaned o flaen elw. Mae’n rhaid i wleidyddiaeth newid. Mae pobl yn haeddu gonestrwydd a chynrychiolwyr sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau, oherwydd gallwn ni ysgogi newid er gwell. Beth Winter 3 Addewid Allweddol 1 Brwydro dros fuddsoddiad ac adeiladu Cyfoeth Cymunedol: drwy ymgyrchu dros fuddsoddiad cynaliadwy mewn swyddi, a helpu grwpiau Cymunedol i gymryd rheolaeth dros yr hyn sy’n eiddo iddynt, byddaf yn gweithio dros ddyfodol llewyrchus, wedi’I adeiladu ar sylfeini balch ein gorffennol. 2 Gwrthwynebu unrhyw doriadau cyllid: fel Llais annibynnol yn siarad yn ddi-ofn drosoch chi, byddaf yn ymladd dros bobl a chymunedau ar draws ein cymoedd, ac yn amddiffyn ein gwasanaethau lleol. 3 Rhoi yn ôl i’r gymuned: fel ffordd ymarferol o ddangos fy ymrwymiad i’r cymoedd yma, dim ond rhan o gyflog Aelod Senedd y byddaf yn ei gymryd - gan ddefnyddio’r gweddill i fuddsoddi mewn prosiectau cymunedol, addysg a hyfforddiant. Fy hanes profedig ☑ Ymgyrch menywod WASPI ☑ Ymgyrch Cynllun Pensiwn y Glowyr ☑ Ysgogais ailsefydlu Cyngor Crefftwyr RhCT ☑ Cefnogais ymgyrchoedd lleol i wrthwynebu cau ysgolion ☑ Eiriolwr cryf dros yr ymgyrch Prydau Ysgol Am Ddim yng Nghymru a’n Cymoedd ☑ Meithrin adeiladu cyfoeth cymunedol – comisiynais adroddiad Sefydliad Bevan ar y maes yng Nghwm Cynon ar ôl Cofid ac mae’r gwaith yn parhau ☑ Cefnogi’r ymgyrch cludiant o’r Cartref i’r Ysgol o’r cychwyn cyntaf Os caf fy ethol byddaf yn blaenoriaethu: ☑ Gweithio i droi’r system drylliedig hon ben i waered – gwleidyddiaeth i’r bobl, nid y cyfoethog a’u clic. ☑ Bod yn wleidydd sy’n atebol i chi, nid i beiriant plaid na noddwyr corfforaethol. ☑ Bod yn llais gonest dros ein Cymoedd, wedi’i wreiddio yn y gymuned, yn weladwy ac yn hygyrch, yn cynnig croeso i bawb. ☑ Adeiladu mudiad lawr gwlad, wedi’i gyrru gan y gymuned. ☑ Gweithio gyda lleisiau blaengar eraill, gwrthod gwleidyddiaeth bleidiol, gan roi’r gymuned yn gyntaf. ☑ Cymryd dim ond rhan o gyflog Aelod Senedd – buddsoddi’r gweddill yn ein cymuned. Cysylltwch â ni Gwefan: www.bethwinter.org.uk E-bost: admin@bethwinter.org Facebook ac Insta: @Beth4PCM TikTok: @bethwinterpcm
Beth Winter - Pontypridd Cynon Merthyr Taflen etholiadol
Efallai nad yw'r ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. Gofynnwch am fformat gwahanol gan brhe@cdffc.llyw.cymru.