Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad, a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais

  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin

  • gweithio eich ffordd drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio allweddell neu feddalwedd adnabod lleferydd

  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Beth i’w wneud os allwch gael mynediad at rannau o’r wefan hon

Os ydych angen y wybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

E-bostiwch brhe@cdffc.llyw.cymru

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn edrych am ffyrdd i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru:

E-bostiwch brhe@cdffc.llyw.cymru

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon gyda sut yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru yn ymrwymedig i wneud eu gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Gyhoeddus (Gwefannau a Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 (dolen i dudalen sydd ar gael yn Saesneg yn unig).

Dogfennau PDF

Nid oedd dogfennau PDF o anerchiadau etholiadol a gyflwynwyd gan Asiantau Etholiadol, Unigolion neu Ymgeiswyr Plaid, neu Swyddogion Enwebu ar gael yn llawn ar adeg yr archwiliad, ac efallai na fydd rhai yn hygyrch. Rydym wedi rhoi anogaeth gref y dylid darparu fersiwn testun plaen o gynnwys anerchiadau etholiadol, fel y gellir ei gyhoeddi mewn HTML ochr yn ochr â’r PDF.

Os na allwch gael mynediad at wybodaeth anerchiad etholiadol mewn dogfen PDF ac nad oes testun plaen ar gael, gallwch wneud cais am fformat gwahanol drwy e-bostio brhe@cdffc.llyw.cymru.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Chwefror 2026. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 05 Mawrth 2026.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 18 Chwefror 2026 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA. Cynhaliwyd y prawf gan Storm ID.

Cwblhawyd gwerthusiad awtomataidd o’r holl dudalennau gan ddefnyddio Playwright ac Axe.

Cwblhawyd profion gydag awtomeiddio, gwerthuso â llaw, arolygu cod, a defnyddio technolegau cynorthwyol ar sampl gynrychioliadol o dudalennau gwe o bob math o gynnwys.

Cwblhawyd yr adolygiad gyda technoleg gynorthwyol gan ddefnyddio’r offer a’r porwyr canlynol:

  • NVDA a Chrome ar Windows

  • VoiceOver a Safari ar MacOS ac iOS

  • Talkback a Chrome ar Android