Sut i sefyll etholiad
Bydd 96 o Aelodau'r Senedd yn cael eu hethol i gynrychioli eu hardal ar 7 Mai 2026. Ydych chi eisiau bod yn un ohonyn nhw?
Mae enwebiadau bellach wedi cau
Daeth enwebiadau ar gyfer ymgeiswyr yn etholiad y Senedd i ben ar 9 Ebrill. Gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o ymgeiswyr drwy ddefnyddio ein chwiliad cod post neu'r dudalen pori yn ôl etholaeth.
Cyflwyniad
Mae'r etholiad yn agored i bobl o bob cefndir, ac o bob cwr o Gymru.
Gallwch sefyll etholiad fel ymgeisydd plaid wleidyddol neu fel ymgeisydd annibynnol.
Sylwch fod gan bleidiau gwleidyddol eu prosesau dethol eu hunain, a allai fod eisoes wedi'u cwblhau. Siaradwch â'r pleidiau gwleidyddol yn uniongyrchol i drafod hyn.
Dod yn ymgeisydd
Os ydych chi'n meddwl am sefyll yn yr etholiad hwn, beth sydd angen i chi ei wneud?
Bydd angen i chi lenwi ffurflen enwebu a'i chyflwyno cyn y dyddiad cau.
Gwefan y Comisiwn Etholiadol yw'r lle gorau i fynd am gyngor ar sut i sefyll fel ymgeisydd.