Cyflwyniad

Graffeg cartŵn yn dangos llaw yn rhoi papur pleidleisio mewn blwch pleidleisio

Mae'r etholiad yn agored i bobl o bob cefndir, ac o bob cwr o Gymru.

Gallwch sefyll etholiad fel ymgeisydd plaid wleidyddol neu fel ymgeisydd annibynnol.

Sylwch fod gan bleidiau gwleidyddol eu prosesau dethol eu hunain, a allai fod eisoes wedi'u cwblhau. Siaradwch รข'r pleidiau gwleidyddol yn uniongyrchol i drafod hyn.

Dod yn ymgeisydd

Os ydych chi'n meddwl am sefyll yn yr etholiad hwn, beth sydd angen i chi ei wneud?

Bydd angen i chi lenwi ffurflen enwebu a'i chyflwyno cyn y dyddiad cau.

Gwefan y Comisiwn Etholiadol yw'r lle gorau i fynd am gyngor ar sut i sefyll fel ymgeisydd.

Diweddarwch eich dewisiadau cwci i weld y cynnwys hwn

Diweddarwch eich dewisiadau cwci i weld y cynnwys hwn