Nid yw’r cyfnod i gyflwyno anerchiadau etholiadol wedi agor eto.

Mae gan bob plaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol sy’n sefyll mewn etholaeth yr hawl i gyhoeddi eu taflen etholiad rhadbost ar-lein. Mae hyn hefyd yn cael ei alw yn anerchiad etholiadol. Er mwyn cyhoeddi anerchiad etholiadol ar-lein mae’n rhaid i chi fod yn:

Asiant etholiadol

Rydych wedi eich penodi’n swyddogol gan y blaid wleidyddol neu’r ymgeisydd annibynnol.

Ymgeisydd rhestr plaid wleidyddol

Gallwch gyflwyno anerchiad etholiadol eich hun, neu ar ran cyd-ymgeiswyr rhestr sy’n sefyll ar ran eich plaid yn eich etholaeth.

Ymgeisydd unigol

Gallwch gyflwyno anerchiad etholiadol ar eich rhan eich hun.

Gall swyddog enwebu plaid gyflwyno anerchiad etholiadol hefyd. Os ydych yn swyddog enwebu sy’n dymuno cyflwyno anerchiadau etholiadol, mae’n rhaid i chi gysylltu gyda’r Bwrdd Rheoli Etholiadol (BRhE) brhe@cdffc.llyw.cymru cyn cyflwyno.

Anerchiad etholiadol:

Mae’r broses cyflwyno anerchiad etholiadol yn agor pan fydd Swyddogion Canlyniadau yn cyhoeddi’r Hysbysiad Etholiad. Peidiwch â cheisio cyflwyno anerchiad etholiadol cyn y dyddiad yma.

Bydd anerchiadau etholiadol yn cael eu cyhoeddi bob dydd Iau o 16 Ebrill 2026. Mae’n rhaid i’ch anerchiad etholiadol gael ei gyflwyno o leiaf 48 awr cyn cyhoeddi er mwyn iddo gael ei gynnwys yn y cyhoeddiad. Bydd anerchiadau etholiadol sy’n cael eu derbyn yn hwyr yn cael eu cyhoeddi yr wythnos ganlynol.

Rhaid eich bod wedi cyflwyno eich papur enwebu yn llwyddiannus i’ch Swyddog Canlyniadau Etholiadol YN OGYSTAL Â chael eich taflen etholiad wedi ei chymeradwyo gan y Post Brenhinol cyn cyflwyno eich anerchiad etholiadol.

Byddwch angen:

  • Fersiwn PDF o’ch taflen etholiad rhadbost (llai na 15MB)

  • Côd dilysu Post Brenhinol

  • Dewisol – fersiwn testun plaen o’r geiriad o’ch taflen rhadbost

Hygyrchedd

Gallwch gyflwyno eich anerchiad etholiadol ar ffurf testun yn Saesneg ac/neu yn y Gymraeg. Bydd ei gyflwyno ar ffurf testun yn gwneud eich anerchiad yn fwy hygyrch i bleidleiswyr sydd gan:

  • Amhariad ar eu golwg neu eu gallu i symud

  • Gysylltiad rhyngrwyd gwael

  • Hen ddyfeisiau

Argymhellir yn gryf eich bod yn nodi’r testun sydd wedi ei argraffu ar eich taflen etholiadol rhadbost yn y blwch testun. Mae’n golygu y bydd cynnwys eich anerchiad etholiadol hefyd yn cael ei gyhoeddi mewn fformat sy’n hygyrch i fwy o bleidleiswyr. Bydd y ffeil PDF yn dal i gael ei chyhoeddi ochr yn ochr.