Rydym yn ceisio barn gan bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr am y gwaith a wnaed gan Fwrdd Rheoli Etholiadol Cymru mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd yn ddiweddar. Hoffem gael adborth ynghylch p’un a wnaethoch chi lanlwytho eich anerchiad etholiadol i’r platfform ai peidio. Byddwn yn rhannu’n safbwyntiau a gesglir gyda’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a bydd dysgu lefel uchel yn cael ei rannu gyda Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Etholiadol a Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol.